"Wel, mae hi'n anodd egluro'r peth. Yr ydach chi'n sefyll y tu allan i'r gegin yn 'sbïo ar y byrdda' a'r dresal a'r cwpwrdd cornal 'na a'r droell a'r hen gloc, ac eto yr ydach chi'n teimlo eich bod chi y tu fewn, yn rhan o'r gegin rywsut. Fel petasech chi allan ac i mewn yr un pryd."
Edrychodd Crad yn amheus ar ei frawd yng nghyfraith.
"Felly 'wy inna'n teimlo bob tro 'wy'n dod yma," meddai'r dyn tew. "Fel 'tawn i'n galw mewn tŷ 'wy'n hen gyfarwydd ag e a'r bobol yn digwydd bod mas a finne'n aros iddyn nhw ddod 'n ôl. Yr hen wraig odd yn darllen y Beibil 'na newydd daro'i sbectol lawr a rhytag mas i gau'r beudy am y nos, ontefa? 'Odych chi 'di gweld 'Plu'r Gweunydd?"
"Lle?"
"Enw llyfyr yw a—gan Mr. Iorwerth Peate, y dyn drefnws yr ystafellodd Cymreig 'ma."
"Naddo, wir, wchi."
"Wel, ma' 'da fa soned am y gegin 'ma yn y llyfyr. Soned fendigedig—yr hen gloc yn dal i dipian yn araf a phopeth arall yn llonydd o'i gwmpas a. Ac 'ych chi'n gwbod shwd ma' fa'n cwpla'r soned?"
"Na wn i, wir."
"Fel hyn: 'Ai oddi cartref pawb? Dic doc, dic doc.'
Lled dda, ontefa!... Wel ma' rhaid i fi fynd. Diwetydd da i chi'ch dou."
"Pnawn da." Bu'n rhaid iddynt hwythau droi ymaith ac i lawr y grisiau, gan fod yr Amgueddfa'n cau am bump.
"Rhaid inni ddŵad â Wili John ac Eleri i lawr yma ryw ddiwrnod, Crad. Mi fydd gweld yr ystafelloedd 'na yn addysg iddyn nhw."
"Bydd."
"'Oedd gan dy fam ddim canhwyllarn dwbwl fel hwn'na welsom ni yn y gegin, dywad?"
"Nac oedd." Aethai Crad yn ŵr tawedog iawn.
Crwydrodd y ddau yn araf heibio i Neuadd y Ddinas, gan loetran wrth y mur uwchlaw'r gamlas a fuasai unwaith yn cludo glo a haearn o Ferthyr i borthladd Caerdydd. Lle bu gynt ysgraffau llwythog yn rhwygo'r dŵr, a thwrf ceffylau a gyrwyr ar y lan, nid oedd yn awr ond llonyddwch y llysnafedd gwyrdd ar wyneb y gamlas, a'r borfa'n tyfu'n wylit tros y llwybr ar ei min. Dychwelodd y ddau tua'r Amgueddfa,