Tudalen:William-Jones.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ond cŷn bach sy gynnoch chi yno, yntê?"

"Ia, ond 'cŷn manollt fyddwn ni'n 'i alw fo. Yn y twll yr ydan ni'n defnyddio'r 'cŷn bach'—hefo gordd haearn i hollti plyg ne' i dorri piler go hir yn ddau iddo fo gael bod yn hwylus i'w daro ar y wagan. Na, 'cŷn manollt' a'r 'ordd bren fach' yn y wal bob amsar, Mr. Lloyd."

"Wel, wir, Mr. Jones, yr ydw i'n ddiolchgar iawn i chi. A gwrandwch, y mae'n rhaid i chi gymryd rhan yn y rhaglen yma, doctor ne' beidio. Mi fydd 'na well siâp arni hi pan ddo' i'n fy ôl o'r Gogledd wedi i rai o'r chwarelwyr fynd drosti hi'n ofalus, ond 'wyr neb yn y byd pa newid fydd yn rhaid imi 'i wneud yma yn y stiwdio ar y munud ola'. Felly, mae'n rhaid i chi fod yma."

"Wel, os medra' i fod o help i chi, Mr. Lloyd ..."

"Ac ma' rhaid i chi ddod miwn i'r serial," meddai Ellis Owen. "I 'weud y gwir, 'wy' ddim yn cretu'r stori 'na am y doctor. 'Odw i'n reit?"

"Wel...!" A gorffennodd William Jones ei gwpanaid o de. Wrth y drws ar ei ffordd allan, pwy a welai'n cyflwyno'i lythyr i wr y tair streip ond y "canwr" tew a ddaethai i mewn i'r trên yn Ynys-y-gog.

"Sid Jinkins, Ynys-y-gog," meddai ei ryferthwy o lais. "Audition. Six-thirty." "Dowch i mewn i'r ystafell-wrando am eiliad, Mr. Jones," meddai Emrys Lloyd, "imi gael rhoi amsera'r rhaglen am y chwarel i chi. Dos di â'r dyn tew 'na i'r stiwdio, Ellis." Arhosodd William Jones am funud i wrando ar y "canwr" yn darlunio'r haul yn machlud. "Llithrai'r haul yn araf tros y penrhyn, gan fwrw ei aur a'i borffor i'r môr," oedd y frawddeg gyntaf. Dyna oedd y geiriau, ond yr hyn a ddywedai goslef y darllenwr oedd, "Tynnodd yr ysgerbwd ei benglog a'i daro dan ei fraich cyn dawnsio ar y bedd." Brysiodd y chwarelwr tua'r orsaf. Yno, yng nghongl y sedd hir wrth fur y swyddfa-dicedi, eisteddai Crad mewn unigrwydd ac amynedd mawr. Neidiodd ar ei draed pan welodd ei frawd yng nghyfraith.

"Tyd, mi gei di ddeud y stori wrtha' i yn y trên," meddai.

"Mae 'na un ar gychwyn 'rŵan."

"Yr argian fawr!" "Wel, da drybeilig, William!" "Mi fydd Meri wrth 'i bodd, fachgan," a sylwadau tebyg a saethai o'i enau yn y trên.