Tudalen:William-Jones.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llaw, dim ond pedwar actor a oedd yn y stiwdio. Teimlai William Jones, ar y ffordd i'r lle â'r sgript o dan ei fraich, fod y B.B.C. yn talu arian da iddo am y nesaf peth i ddim- tair golygfa, un wrth droed y graig cyn tanio, un yn y caban- ymochel, a'r llall eto yn y fargen ar ôl y ffrwydriad. Diar, haerllugrwydd oedd cymryd y pres am gyn lleied o waith. Ond sylweddolodd yn fuan iawn yn y stiwdio fod yn rhaid iddo fod ar flaenau'i draed bob ennyd. Torrai rhyw sŵn neu'i gilydd o flaen neu yng nghanol llawer o frawddegau Huw Parri, a chan mai o stiwdio arall neu oddi ar recordiau y deuai'r sŵn, ni chlywai William Jones mohono. Felly, rhaid oedd iddo aros am arwydd—fflach o olau gwyrdd yn belydryn ar fur y stiwdio—cyn dweud ambell frawddeg, a rhyw brofiad go annifyr oedd yr aros hwnnw. Yn y caban- ymochel, er enghraifft, ceisiai swnio'n hollol ddidaro, ond a'i lygaid eiddgar yn gwylio'r pelydryn ar y mur, nid hawdd oedd hynny. Rhoddai disgwyl anesmwyth William Jones yn y stiwdio gyffro annaturiol yn llais Huw Parry yn y caban- ymochel, a chafodd Emrys Lloyd gryn drafferth gyda'r darn hwnnw. Efallai y cofia'r darllenydd beth o'r ymgom.

HUW PARRI: Mae 'sgotwr da yn gwneud 'i blu 'i hun bob amsar. Mi fyddai, beth bynnag.(Sŵn y ffrwydriadau dipyn yn nes).
ROBIN HUWS: Maen nhw'n tanio'n o brysur tua'r Twll Mawr 'na hiddiw.
HUW: Bydda', 'nen' Tad. A mi ddigwyddodd peth rhyfadd iawn yn y tŷ 'cw un noson. 'Ron i wedi gorffan gwneud March Brown, a dyna lle'r oedd y ddau bry gin i ar ddarn o bapur glân ar y bwrdd.
ROBIN: Pa ddau bry?
HUW: Yr un on i wedi'i wneud a'r un go-iawn on i'n ddefnyddio fel patrwm. Wel, wir, 'fedra' neb ddeud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw, wchi. A phan on i'n edrach arnyn' nhw, dyma bry copyn mawr yn dŵad i lawr 'i we o'r to ac yn cerddad o gwmpas y papur i 'sbïo ar y ddau bry.
(Sŵn ffrwydriad agos).
Wel, 'wnes i ddim meddwl y basa'r pry' cop.... Dyna fo, Robin.
ROBIN: Ia, ffrwydriad go dda hefyd, Huw.
(Sŵn y plygion a'r man gerrig yn syrthio o'r graig).