- HUW: Mae 'na blygion go fawr yn fan 'na, mi gei di weld. Mi rois i ddigon o bowdwr ynddo fo y tro yma... A fel 'ron i'n deud, dyma'r pry' cop yn 'sbïo ar y ddau bry' ac yn cydio yn un ohonyn nhw, a chyn i mi gael cyfla i'w stopio fo, i ffwrdd â fo i fyny i'r to. A wyddoch chi pa bry' ddaru o gymryd?
- ROBIN: Yr un go-iawn, wrth gwrs.
- HUW: Wel, naci, fachgan. Fy mhry' i! Fy mhry' i! Mi ddiflannodd hefo fo i ryw dwll bach yng nghongol y ceiling, a dyna'r dwytha' welis i o'r March Brown hwnnw, y pry' bach gora' wnes i 'rioed.
(Sŵn y "Corn Heddwch").
- Dyna'r "heddwch" hogia'. Tyd, Robin, inni gael gweld pa lanast' wnaeth y powdwr 'na. Tyd, mae digon o isio cerrig arno' ni y mis yma ar ôl llosgi cymaint o bowdwr i ryddhau dim ond baw o'r hen graig 'na. Tyd ...
Nid oedd angen swnio'n gyffrous wrth sôn am y "plygion go fawr," er enghraifft. Digwyddiad cyffredin, pob-dydd, i chwarelwr oedd gwrando ar ffrwydriad yn y twll amser saethu. Ond â'i lygaid disgwylgar yn rhythu ar fur y stiwdio i weld y golau, anodd ar y cychwyn oedd i William Jones ymddangos yn ddidaro, a bu beth amser cyn dysgu'r gelfyddyd o gil-edrych am y golau gwyrdd. Yr oedd eisiau iddo weiddi tipyn hefyd mewn un olygfa, ac ni fedrai yn ei fyw gofio camu'n ôl yn gyflym a throi ei ben ymaith. Ond ei bechod parod oedd siarad wrth ei gyd-actorion yn lle wrth y meicroffôn. "Tyd, Robin," meddai, gan droi at yr actor gerllaw iddo, a swniai ei lais, yn ôl Emrys Lloyd, yn dawel a phell. Ang- hofiai mai'r meicroffôn oedd "Robin" a phob cymeriad arall y dywedai rywbeth wrtho, a bod yn rhaid iddo daflu ei sylwadau i'r teclyn bob gafael. Yn wir, y peiriant hwnnw a deyrnasai yn y stiwdio: ato ef yr oedd yn rhaid gwyro ymlaen i sibrwd, arno ef yr oedd rhywun i wenu neu wgu, ac oddi wrtho ef yr oedd eisiau neidio'n ôl mewn braw. Yr oedd yn dda gan William Jones glywed llais Emrys Lloyd yn cyhoeddi seibiant a chyfle am gwpanaid o de.
Pan gyrhaeddodd Fryn Glo, yr oedd Crad yn yr orsaf yn ei gyfarfod, er ei bod hi'n tywallt y glaw. Teimlai William Jones yn ddig wrtho. Cawsai Crad wanwyn a dechrau haf pur hapus, ond daethai gyda'r tywydd poeth byliau o wendid