Tudalen:William-Jones.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trosto a blinai'n fuan iawn. Dychwelasai'r colli anadl hefyd, a châi ambell noson a'u dychrynai fel teulu.

"Be' goblyn oeddat ti'n dŵad allan heno?" oedd cyfarchiad y chwarelwr.

"Sut hwyl gest ti, William?" oedd yr unig ateb.

Am chwarter wedi wyth y noswaith ddilynol y darlledid "Y Chwarelwr," ond yr oedd yn rhaid i William Jones fod yn y stiwdio am hanner awr wedi pump ar gyfer yr ymarfer terfynol. Aethant drwy'r rhaglen i gyd am chwarter i saith, ac ymddangosai Emrys Lloyd yn bur fodlon arni pan yrrodd yr actorion am gwpanaid o de tua chwarter i wyth. Dywedodd William Jones droeon wrtho'i hun ac wrth y rhai o'i gwmpas fod y te yn dda iawn. Nerfus? Dim peryg'!

"Triwch gofio troi dalen eich sgript yn berffaith ddistaw, Mr. Jones, rhag i'r sŵn fynd i'r meic," oedd cyngor olaf Mr. Lloyd iddo. "Pob hwyl i chi!"

Ym Mryn Glo, aethai Crad i'r drws nesaf ryw awr yn rhy gynnar.

"Faint ydi hi o'r gloch, Meri?" gofynnodd ychydig wedi saith.

"Rhyw bum munud wedi saith."

"Mi a'i draw i'r drws nesa' i fod yn barod."

"Ond diar annwl, am chwartar wedi wyth y mae'r peth."

"Ia, ond 'falla'... falla' y byddan nhw'n dechra'n gynnar, wsti.

"Dydyn nhw byth yn gwneud hynny, Crad."

"O, ydyn'. Mi glywis i am ryw raglan yn dechra' awr cyn 'i hamsar."

"Chlywist ti ddim o'r fath beth. Ista wrth y tân 'na."

"Mi a'i draw at Dai Morgan am sgwrs."

Ymgasglodd y teulu i gyd o gwmpas set-radio Idris Morgan tuag wyth o'r gloch. Pur gyfyng oedd hi yn y parlwr, gan fod yno organ go fawr a silffoedd llyfrau a bwrdd-ysgrifennu yn ogystal â'r dodrefn arferol, ond dygasai Mrs. Morgan gadeiriau o'r gegin, ac yr oedd Wili John ac Eleri'n falch o gyfle i eistedd ar glustogau ar y llawr. Troesai Idris yr ystafell yn rhyw fath o stydi, a gwnaethai ei dad ysgwâr o bren, â brethyn oddi tano i'w gadw rhag llithro, i'w osod ar y bwrdd, a phiniai'r bachgen unfraich ei bapur ar hwnnw pan fynnai ysgrifennu. Yr oedd yn rhaid iddynt oll yfed glasiaid o ddiod fain, a rhoddwyd banana bob un i Wili John ac Eleri.