"Mi ro'i steak and chips iddo fo! Y tebot!"
"Ond 'wyddost ddim, 'falla' fod gan y dyn 'ma ..."
"Athrylith, William, athrylith! Yn Saesneg, genius. Yn iaith Wili John, boloney. Mi fasa' wedi gwneud plisman bendigedig yn nrama Twm. Digon o lais a digon o giamocs. 'Dydi'r ffaith fy mod i'n sâl ddim yn rhoi hawl i bob ffŵl drio'i law ar fy ngwella i a stwnsian fel y mae hwn."
"Ond mi ddeudodd o'r gwir amdanat ti."
"Hawdd iawn iddo fo."
"O?"
"Mi ddeudodd fy mod i'n goliar. Y marcia' glas 'ma ar fy nhalcan i yn gweiddi hynny, 'ngwas i. Mi ddeudodd fod fy mrest i'n wan. Mi fedra' dyn dall gasglu hynny dim ond iddo wrando ar y fegin o frest sy gin i. Mi ddeudodd fy mod i'n dena'. Mi welodd hynny trwy a thros 'i sbectol."
"Sh!"
Dychwelodd y "Doctor."
"Y rhai hyn i chwi," meddai wrth William Jones, gan estyn blwch crwn iddo. "Cymerwch bump bob dwyawr, pump bob dwyawr."
"Diolch." A thynnodd y dyn bach ei bwrs allan.
"Yn awr eich achos chwi, fy nghyfaill," meddai wrth Grad.
"Y rhai hyn," gan roi blwch crwn arall ar y bwrdd, "ar ôl pob pryd. Y rhai hyn," gan daro blwch hirgul wrth ochr y cyntaf, "wedi deffro yn y bora a chyn cysgu'r nos. A'r rhai hyn bob dwyawr."
"Dim, diolch."
"Beth, fy nghyfaill?"
"Dim, diolch. Dydw' i ddim isio'r un o'r petha'."
"Ond, Crad!. Cododd William Jones yn frawychus o'i gadair.
"Tyd, William, mae'n bryd inni fynd am y trên."
"Ond ...'
"Tyd, ne' mi fydd rhaid inni aros awr a hannar am y trên wedyn."
"'Faint sy arnon ni i chi, Doctor?" gofynnodd y chwarelwr yn frysiog, gan deimlo y gwaeddai ei nerfau am ddogn o'r feddyginiaeth yn y blwch.
"Pedwar a 'wech, fy nghyfaill."
Daeth o hyd i'r arian a brysiodd ar ôl Crad. Cerddodd y ddau yn dawel ar hyd y ffordd.