Tudalen:William-Jones.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgafn dros yr olygfa ac ymwthiodd darlun arall i'r golwg drwyddo. Gwelai doeau tai a chapeli a thŵr eglwys Llan-y- graig yn ymffurfio yng ngwaelod y tawch, ac uwchlaw iddynt y llwybr melyngoch a ddringai tua'r chwarel. Chwaraeai'r awel yn y coed uwch Afon Gam a chrwydrai rhyw bysgodwr araf tua'r Pwll Dwfn yn is i lawr. Deuai sŵn plant o'r caeau gerllaw, a gwelai Gwen a Megan a Meurig, plant yr Hendre, yn cael hwyl yn y cynhaeaf gwair, a Thwm Ifans, eu tad, yn dweud y drefn wrth Gymro, y ci. Ciliodd y tawch, a syllodd William Jones eto ar Fryn Glo a'r llethr ddi-goed a thywyllwch y tip. "Ia, wir, Mot," meddai'n freuddwydiol, a chododd y ci ei lygaid mawr brown a gwthio'i drwyn yn ddeallgar i'w law.

Wrth gwrs, byddai'n rhaid iddo aros am rai wythnosau eto ar gyfer "Y Pwll Du" a'r "Holi ac Ateb" 'na a oedd i gychwyn ymhen pythefnos. A soniasai Howells fod y dyn a ofalai am Awr y Plant yn bwriadu cynnig rhan iddo mewn rhyw gyfres o ddramâu. Beth oedd enw'r gyfres, hefyd? Ni chofiai, ond clywsai mai helyntion nifer o deganau mewn ffenestr siop oedd y deunydd, ac mai milwr bach coch a syrthiasai oddi ar silff a thorri ei goes fyddai ef... Ac wedyn, fe fyddai'n rhydd i droi'n ei ôl.. Sut hwyl a gâi Bob ar ei fargen newydd, tybed? Cerrig rhywiog, meddai yn ei lythyr diwethaf... A ddaliai'r hen Ddafydd Morus i gludo'i gath i'r chwarel bob dydd? A John Williams i 'falu am ei ieir? . Ia, wir... Rhoddai ffatri arfau Twm Edwards a'i griw waith i filoedd... Ond dyna fo, yn y chwarel yr oedd ei le ef, yntê? Ac yr oedd hi'n hen bryd iddo ddychwelyd yno at yr hen hogia'. . Oedd, 'nen' Tad.... Nid gwaith hawdd fyddai gadael Bryn Glo, a methasai wneud hynny unwaith. Ond tipyn o deimladrwydd a ddaethai trosto y tro hwnnw, y ffwl gwirion iddo fo.. Chwarae teg i'r B.B.C., talent arian reit dda a medrai roi pres i Feri cyn mynd... Medrai. Byddai'n siŵr o deimlo'n chwithig am amser ar ôl blwyddyn yn y Sowth fel hyn, a hiraethu am Eleri a Wili John a Meri... A'r hen Grad. ... Ia, wir.... Na, ni hoffai'r olwg ar Grad, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef... A beth pe ...? Twt, codi ysbrydion oedd hel meddyliau felly. Ni ddigwyddai dim i Grad; cawsai byliau fel hyn o'r blaen, a dyfod trostynt. Ond, dim ond er mwyn dadl, dim ond fel damcaniaeth ... Ia, wir... Cyfarthodd