Tudalen:William-Jones.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mot gan awgrymu iddo flino ar fod yn ei unfan gyhyd. Cododd William Jones.

"O'r gora', Motsi Potsi, mi awn ni. A 'wnawn ni ddim gadal yr hen Grad, 'wnawn ni?" Pranciodd a chyfarthodd y ci mewn llawenydd mawr. "Dim peryg'! 'Tasa' nhw'n cynnig job i ni fel Jineral Manijar, a'r hen Grad yn sâl, mi fasan ni'n deud wrthyn' nhw am fynd i ganu, on' fasan, 'ngwas i?"

Yr oedd hi'n amlwg y cytunai Mot.

PENNOD XIII

ELERI

Yr oeddynt yn deulu hapus yn niwedd Gorffennaf—Crad yn llawer gwell (dylanwad meddyginiaeth yr hen Watkins, meddai Twm), Arfon gartref am wythnos o wyliau ac yn dal i ganmol ei lety yn Llundain, Eleri wedi cael hwyl ar ei harholiadau yn yr Ysgol Ganolraddol, Wili John bellach yn gynorthwywr yn lle negesydd yn siop Lewis y cigydd, a William Jones yn ennill clod ac arian wrth ddarlledu. Canai Meri uwch ei gwaith.

Ond, yn ddistaw bach, poenai Eleri gryn lawer ar feddwl ei hewythr. Yr oedd hi'n ferch dal a thlos ac yn talu llawer o sylw i'w hymddangosiad, gan gyrlio'i gwallt a hawlio arian i brynu rhyw ddilledyn neu addurn byth a hefyd. Taflu ei phen a wnâi ei mam, gan ddweud mai rhyw dro diflanedig yn ei hanes oedd hwn ac y tyfai allan ohono cyn hir. Ai dweud hynny i'w hargyhoeddi ei hun yr oedd Meri? Ni hoffai William Jones ei difrawder goramlwg. Credai hefyd fod yr un anesmwythyd yng nghalon Crad, er na soniai ef air am y peth. Fflamychai weithiau pan ofynnai Eleri am arian i fynd i'r sinema neu i brynu rhywbeth neu pan ddeuai i'r tŷ yn o hwyr, ac yna cymerai arno iddo anghofio popeth am yr ystorm. Ond cymryd arno a wnâi, yr oedd y chwarelwr yn sicr o hynny. Ia, tipyn o broblem oedd merch ddwy ar bymtheg oed, meddai William Jones wrtho'i hun, gan ysgwyd ei ben fel gwr â chanddo brofiad helaeth o drin rhai tebyg. Ni chynorthwyai