Eleri fawr ddim ar ei mam yn y tŷ, fel petai gwaith felly islaw ei sylw hi, ac âi allan i rywle bob cyfle a gâi-i weld un o'i chyfeillion, i chwarae tennis, i'r sinema, ac weithiau i ddawns. Mynnai gael prynu ei dillad ei hun yn awr, gan ystyried chwaeth ei mam yn hen-ffasiwn, a chwynai nad oedd ganddi hi gôt wen fel Nan Leyshon a Freda James ac eraill o'i chydnabod. Pam na châi hi fynd i weithio i Gaerdydd neu i Lundain yn lle byw mewn rhyw dwll o le fel Bryn Glo? A hi oedd yr unig un o'r genethod nad âi ar wibdaith i Borth- cawl ar y Sul. Beth a oedd o le yn hynny? Ond ni chodai Eleri mo'r cwestiynau hyn yng nghlyw Crad.
Ac eto, hen hogan iawn oedd Eleri, hogan ffeind fel ei mam a siriol-fyrbwyll fel ei thad. Ia, 'nen' Tad, un o'r gennod nobla'. Beth a ddaethai trosti, tybed? A oedd hi mewn cariad â rhywun? Âi allan i gyfarfod y postman yn bur slei ambell fore, a deuai i'r tŷ yn o hwyr weithiau. Gwylltiodd yn o arw un amser te pan ddywedodd Wili John ei fod yntau am gribo'i wallt fel Jack Q.P. Jack Bowen? Na, yr oedd ef wedi symud i weithio mewn swyddfa yng Nghaerdydd, ac yn hộn nag Eleri o rai blynyddoedd. Ond, erbyn meddwl. .. Na, yr oedd hi'n rhy gall i lolian hefo rhyw sbrigyn rhodresgar fel hwnnw... Ia, wir, tipyn o broblem, yntê?
Un noson rai dyddiau ar ôl i Arfon ddychwelyd i Lundain y torrodd y ddrycin.
"Lle mae Eleri?" gofynnodd Crad wrth dynnu'i esgidiau cyn troi i'w wely.
"I'r pictiwrs y deudodd hi'i bod hi'n mynd," atebodd Meri.
"Pictiwrs! Ond mae hi'n un ar ddeg!"
"O, mi ddaw hi 'rwan. Dos di i'r gwely, Crad. A thitha', William."
Ond cau ei esgidiau elo a wnaeth ei gŵr.
"Lle 'rwyt ti'n mynd, Crad?" gofynnodd William Jones wrth weld ei frawd yng nghyfraith yn codi a chamu'n benderfynol i gyfeiriad y drws.
"I nôl yr hogan 'na."
"Ond 'wyddost ti ddim yn y byd lle mae hi," oedd dadl Meri. "Dos di i'r gwely, Crad. Mi fydd hi yma mewn munud."
Ond allan yr aeth Crad.
"Dos hefo fo, William. Mi wyddost un mor wyllt ydi o."
"Gwn" A rhuthrodd William Jones ar ei ôl.