Tudalen:William-Jones.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd hi'n noson gynnes, braf, a'r lloer yn fawr uwch y cwm. Pan droes y ddau gongl Nelson Street a chychwyn i lawr y rhiw, gwelsant ddau gariad yn dringo'n araf, fraich ym mraich, tuag atynt.

"Dacw hi," meddai Crad. "Mi faswn i'n 'nabod y cap coch 'na yn rhwla."

"Crad?"

"Ia ?" "Fydda' ddim yn well inni droi'n ôl 'rŵan? 'Rydan ni wedi'i gweld hi ac yn gwbod y bydd hi adra mewn munud."

"Os ydi'r hogan yn meddwl y medar hi fy ngwneud i dan fy nhrwyn ..."

"Tyd, mi awn ni adra, Crad."

"Hylô, maen nhw wedi dianc i rwla. I mewn i Bristol Street, 'gei di weld."

"Ia, a mi drown ni'n ôl yn ara' deg, Crad."

"Wnawn ni, wir!"

Yr oedd Bristol Street yn wag, ond ymlaen drwyddi yr aeth Crad. Cuddiai dau gariad yn nrws siop fechan yn ei phen draw.

"Eleri!"

Nid oedd ateb.

"Eleri!"

"Ia, Dada?"

"Gwadna hi adra'r munud yma. 'Wyddost ti 'i bod hi ymhell wedi un ar ddeg? Ac os wyt ti'n meddwl fy mod i'n mynd i grwydro i chwilio amdanat ti yn y nos fel hyn ..."

"On i'n mynd adra 'nawr, Dada."

"Oeddat ti, wir!... O, Mr. Bowen, ai e? Gwell i titha' 'i gloywi hi, 'ngwas i, cyn i flaen fy nhroed i roi cychwyn iti."

A'i "gloywi hi" a wnaeth Jack Bowen, gan danio sigaret ac yna chwibanu tipyn wedi iddo gyrraedd tir diogel.

Brysiodd Eleri adref o'u blaen, a disgwylient ei chael hi'n beichio wylo ar wddf ei mam. Yn lle hynny, yr oedd hi'n hynod dawel â her yn ei llygaid.

"Dos i'r gwely 'na," meddai ei thad yn swta.

"Ia, i'r gwely â ni i gyd, Eleri fach. Mi fyddwn ni wedi anghofio pob dim am y peth erbyn 'fory, wsti," meddai William Jones.

"Na fyddwn, Wncwl William."

"Gwranda, 'nginath i," meddai Crad, yn dechrau colli'i