Tudalen:William-Jones.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dymer eto. "I'r gwely 'na ddeudis i, yntê? A heb swpar."

"Dada?" Yr oedd rhyw gryndod peryglus yn y llais.

"Y?"

"Nid deuddeg ôd wy' i 'nawr. Ac os ych chi am fy nhrin i fel heno

"Wel?"

"Wy'n mynd o'ma."

"Yli, dos i'r gwely 'na cyn imi golli fy nhempar a chwilio am wialen fedw. Mynd o'ma, wir! Dos ... Be' wyt ti'n wneud, Meri?"

"Dim ond torri tamad o fara-'menyn iddi hi. Mae'r hogan isio bwyd bellach."

"Isio bwyd ne' beidio, yn syth i'r gwely 'na y mae hi i fynd."

Trannoeth, tawedog iawn oedd Crad tros ei frecwast. Ni

chysgasai fawr ddim ac ni theimlai'n dda o gwbl.

"Dyna ti, 'wyt ti'n gweld," meddai Meri. "Gwylltio fel matsen, ac wedyn 'dyfaru a phoeni. Mi fasa'n well o lawar 'tasat ti wedi gwrando arna' i a William, yn lle codi ffys."

"Ffys! Aros di imi gael gafael yn y Jack Bowen 'na; mi ddangosa' i iddo fo faint sy tan Sul!"

"On i'n meddwl bod yr hogyn yn gweithio yng Nghaerdydd 'rŵan," sylwodd William Jones.

"Ydi, mae o," meddai Meri. "Ond mae o 'di bod adra am wsnos. Mynd yn 'i ôl pnawn 'ma."

"Sut y gwyddost ti?" gofynnodd Crad.

"Eleri ddeudodd wrtha'i."

"Lle mae hi?"

"Allan yn rhwla. Mi gafodd frecwast hefo Wili John."

Amser cinio, ceisiodd William Jones fywhau tipynar bethau trwy brofocio Eleri ynghylch y rhuban yn ei gwallt. Torrodd hithau i grio, a syllodd pawb yn syfrdan ar ei gilydd.

"Gwranda, Eleri," meddai ei thad, pan ddaeth hi ati ei hun.

"Tasat ti hefo rhyw hogyn fel ... fel Richard Emlyn ne' rywun neithiwr, 'faswn i ddim wedi codi twrw. Yr wyt ti'n hen hogan fach iawn, wsti, ac er dy les di dy hunan yr oedd Wncwl William a finna'n dwad i chwilio amdanat ti, Mi gei di a Wili John fynd i'r pictiwrs heno."

Wylo'n hidl a wnaeth Eleri.

Aeth William Jones a Chrad i lawr i'r pentref am dro yn y prynhawn, gan droi'n ôl yn hamddenol ychydig wedi ped- war. Brysiai Meri i'r tŷ yr un pryd â hwy â basged yn ei llaw.