Tudalen:William-Jones.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wyt ti'n siŵr, 'nawr? Yn berffeth siŵr?"

"Odw. Dim ond dau-Jinkins yr Emporiym a 'Leri Williams ddath miwn."

"Eleri Williams! 'Na'r ferch 'ŷn ni'n whilo amdani, y twpsyn tew!"

"Dishgwl di yma, Sam, 'dyw'r ffaith fod dillad plisman amdanat ti ddim yn rhoi'r hawl iti ..."

"Gad dy glebar. Pam na faset ti'n gweud ar unwath fod y ferch ar y bws, w?"

"Ond merch fach 'wedaist ti. Ac os yw 'Leri Williams yn ferch fach, 'wy inna'n dena' a thitha'n dew." A chwarddodd Ben yn uchel eto.

"Wyt ti'n siŵr taw hi odd hi? Shwd wyt ti'n 'i 'nabod hi?"

"Shwd 'wy' i'n 'i 'nabod hi! Shwd 'wy' i'n 'i 'nabod hi!

Yn Scotland Yard y dylet ti fod, Sam, bachan. ... Shwd 'wy' i'n 'nabod 'Leri Williams a 'itha'n trafaelu ar y bws 'ma bob bora i'r ysgol! Jiw, jiw!"

"Be' odd hi'n wishgo?"

"Cap coch, côt nefi blŵ, a 'rodd bag lledar 'da hi."

"Rhwbath arall?" Tynnodd Sam Pierce ei nodlyfr allan. "Odd. 'Nawr 'wy'n cofio, bachan." Taflodd Ben winc i wyneb eiddgar William Jones.

"Wel, cer 'mlân!"

"Trwsus pen-glin!" A throes pwl ochwerthin wyneb mawr Ben yn gochach na'i wallt. Yna gwelodd y pryder yn Lygaid y chwarelwr, a sobrodd yn sydyn.

"I Gardydd 'ath hi," meddai. "Odd hi'n mynd yno ar 'i holides, medda' hi wrtho'i. 'Odd hi'n ishta'n y bws 'da rhyw ferch ddath miwn yn Nhre Glo, merch sha'r un ôd â hi. 'On nhw'n nabod 'i gilydd, ond 's mo fi'n gwbod pwy odd y llall." A dyna'r cwbwl a wyddai Ben.

Galwodd William Jones yn nhŷ Jack Bowen ar ei ffordd adref. Yn ffodus, aethai Mrs. Bowen allan i siopa, a chafodd heb un trafferth gyfeiriad y swyddfa lle gweithiai'r mab yng Nghaerdydd.

"Yr ydw i am fynd i lawr i Gaerdydd bora 'ma," meddai wrth Meri. "Mae'n rhaid imi fod yno heno ar gyfar 'Y Pwll Du,' ond mi liciwn i gael gair hefo'r Jack Bowen 'na cyn hynny. Paid â sôn wrth Grad, rhag ofn y bydd o isio dŵad hefo mi. Wedi cael telegram o'r B.B.C. dywed wrtho fo." Pur bryderus oedd ei gamau o orsaf Caerdydd i gyfeiriad