Tudalen:William-Jones.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chysgodd yr un ohonynt ryw lawer y noson honno. Cododd William Jones yn fore, ac i ffwrdd ag ef tua saith i dynnu Sam Pierce o'i wely. Rhoes hwnnw'r manylion i lawr yn ofalus, gan addo ffônio disgrifiad o Eleri i'r heddswyddog yng Nghaerdydd. Galwodd orsaf Bryn Glo ar y ffôn. Na, nid oedd y clerc a oedd yno'r prynhawn cynt ar gael, ond deuai at ei waith am hanner awr wedi wyth. Stokes, y porter, a siaradai.

Dychwelodd y chwarelwr i'r tŷ am damaid o frecwast ac orig arall o ddyfalu a damcanu pryderus yng nghwmni Meri a. Wili John. Degau o weithiau y gofynnodd Meri a'i brawd yr un cwestiynau i'w gilydd, gan archwilio'r un tir dro ar ôl. tro. Ond ymbalfalu yn y tywyllwch yr oeddynt, heb ganfod llewych yn unman. Yr oedd Crad yn ei wely, yn llipa ar ôl dwy noson ddi-gwsg.

Aeth William Jones gyda Sam Pierce i weld y clerc yn yr orsaf. Eleri Williams? Adwaenai ef hi'n dda, gan iddo fod yn yr un dosbarth â hi yn ysgol Tre Glo. Na, ni welsai mohoni y prynhawn cynt. Jack Bowen? Do, fe aethai ef yn ôl i Gaerdydd ar y trên dau. Cwmni? Na, ei hunan yr oedd.

"Y bws," meddai'r plisman. "Ma 'na un 'nawr am hanner awr 'di naw. A Ben, 'nghender, yw'r condyctor."

Brysiodd y ddau at siop yr Eidalwr, a daeth y bws a redai o Dre Glo i Gaerdydd i'r golwg cyn hir. Llanc tew, digrif, gwallt coch, oedd Ben, â gwên lydan ar ei wyneb bob amser.

"Na record, Sam!" meddai wrth ei gefnder, pan arhosodd y bws.

"Beth?"

"'Y Delyn Aur?!" A chwarddodd dros bob man.

"Gwranda, Ben," meddai'r plisman, "a thria fod yn sobor am funud, os na fydd hynny'n ormod o straen arnot ti. Ma' merch fach o Fryn Glo 'ma 'di cilo bant. Seventeen, gwallt tywyll, llyged glas ..."

"Pryd cilws hi?"

"Pnawn ddo'."

"Bws tri o'r gloch?"

"Ia, 'falla'. 'Ddath merch fach miwn i'r bws pnawn ddo'?"

"Gad i fi drio cofio 'nawr ... Bws tri, bws tri.... Na, 'ddath dim merch fach i'r bws."