ac ar ei phen yr oedd cap bychan crwn o'r un deunydd. Byddai'n rhyfedd gweld Eleri mewn dillad felly, meddai'r chwarelwr wrtho'i hun. . Ia, hi oedd hi, yr oedd yn sicr o hynny.
"Eleri!"
"Wncwl William!" A thorrodd i wylo.
"Come along to my office," meddai'r goruchwyliwr yn garedig.
"Tyd, Eleri. A phaid â chrio, 'nghariad i. Mi fydd popeth yn iawn 'rŵan, wsti."
"Can she come home with me, syr?" oedd cwestiwn pry- derus William Jones yn y swyddfa. Ofnai y byddai rhyw gytundeb yn ei chadw yno hyd ddiwedd yr wythnos. "Of course. We're a bit short-handed, but we'll manage all right. You go and get changed, Hilary."
"Thank you, sir."
"Hilary is my girl's name," eglurodd y goruchwyliwr wedi i Eleri fynd allan. "That's a photo of her, there on the mantel- piece. They're rather alike, aren't they?"
"Yes, indeed, very alike."
Cododd y dyn a datgloi cwpwrdd haearn yng nghongl yr ystafell. Cymerodd bapur punt allan o flwch a oedd ynddo. "You're her uncle, aren't you? Her father alive?"
"Yes. A collier he is, but unemployed now, of course. And not very well. Dust on his lungs."
"Hm!" Agorodd y blwch eto a chymryd papur punt arall ohono. Yna clodd y blwch a'r cwpwrdd yn ofalus. "Can't be too careful these days," meddai. "And we've had a bit of trouble here this week... Ah, here she is!"
Gwisgai Eleri ei chap a'i chôt ei hun yn awr. Yr oedd ei llygaid yn goch wedi pwl o wylo. Ysgydwodd y goruchwyliwr law â William Jones ac yna estynnodd y ddau bapur punt i Eleri.
"No, I... I don't deserve them, sir."
"Nonsense! Put them in your pocket. And from now on, Hilary, you're going to be a very good little girl, aren't you?"
"Yes, sir." A chronnodd y dagrau yn ei llygaid eto. "I know you are. Good-bye and good luck, my dear."
Ysgydwodd William Jones law â'r dyn eilwaith cyn troi ymaith, gan ddiolch yn gynnes iddo. Diawch, wedi'r cwbl,