y chwarelwr i'w chwaer. "Un garw am deisan 'fala' ydw' i, hogan."
"Mi gaiff Eleri 'i hestyn hi. A'r jam eirin hwnnw mae Wncwl William mor ffond ohono fo."
Daliai Eleri i grio, ond rhoes cludo'r llestri a'r bwyd i'r bwrdd gymorth iddi i anghofio'i helynt. A phan aeth Crad ati i geisio helpu, gwthiodd ef o'r neilltu. Ciliodd yntau ymaith, gan gymryd arno ddigio.
"Mi a' i i'r parlwr am funud nes bydd y te'n barod," meddai. "Yr ydw i'n cael coblyn o dafod weithia' am ista'n ddiog yn y gadair 'na, ond dyma fi, pan ydw i'n cynnig helpu, yn cael fy ngyrru o'r ffordd. Mae hi'n anodd dallt y merched 'ma, William."
Aeth William Jones ato i'r parlwr cyn hir i'w alw at ei de.
Yr oedd llygaid Crad yn goch i gyd.
PENNOD XIV
AWYR IACH
Nid oedd fawr ym mhen Wili John. Dyna, o leiaf, oedd barn y teulu yn Nelson Street, a theimlent yn falch iddo adael yr ysgol pan wnaeth hynny a chael lle yn siop Mr. Lewis y cigydd. Nid oedd ef na cherddor na llenor nac actor nac adroddwr, a phan geisiai ddysgu adnod ar gyfer Cwrdd Chwarter yr Ysgol Sul, byddai'n ei dweud wrtho'i hun bob dydd am wythnos ac yn sicr o'i hanghofio wedyn yn y cyfarfod. Y mae'n wir ei fod yn aelod selog o Uwch—Adran yr Urdd ac o Glwb y Bechgyn, ond pur anaml y gwelid ef ar y llwyfan yn y cyngherddau a drefnid ynddynt. Bu'n un o dyrfa'n gweiddi "Bw!" mewn rhyw ddrama, a manteisiodd unwaith ar ddyfais o'r enw "cydadrodd" i fwmian rhywbeth tu ôl i ddyrnaid o barotiaid eiddgar.
Er hynny, yr oedd pawb yn hoff o Wili John ac o'r wên fawr a ddatguddiai ei ddannedd amlwg ac anwastad i'r byd o fore hyd hwyr. Dyna'r gwas mwyaf gweithgar a gawsai ef erioed, meddai Mr. Lewis, ac yr oedd ganddo ddwylo medrus a pharod iawn. Ei haelioni oedd ei brif ddiffyg. Gan fod rhywun di—waith ym mhob tŷ ymron ym Mryn