Tudalen:William-Jones.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glo, anghywir braidd oedd syniadau Wili John am y pwysau ar y glorian. Edrych i ffwrdd a wnâi Mr. Lewis pan bwysai Wili John frôn neu ddarn o gig i wraig go dlawd, neu pan wthiai "scrag-end" i mewn i'r parsel. Yn ffodus iawn, adar o'r unlliw oedd y ddau, ac ni chraffai'r gwas yntau ar glorianwaith esgeulus ei feistr.

Er yr ymddangosai mor llon a di-hîd, poenai Wili John gymaint â neb ynghylch afiechyd ei dad, ac un noson yn y gwely, pan droes ei ewythr ar ei ochr dde i gysgu, meddai,

"Wncwl William?"

"Ia, Wili John?"

"Mynd yn wath ma' Dada, ontefa?"

"O, faswn i ddim yn deud hynny, 'ngwas i. Mae o wedi cael pylia' fel hyn o'r blaen ac wedi dŵad trostyn nhw'n iawn."

"Dyw a ddim yn dod lan i'r 'lotment 'da chi 'nawr."

"Nac ydi, a 'dydw' i ddim yn gweld bai arno fo. Hen laddfa ydi dringo i fyny i fan 'no, ac mi fydda' inna'n teimlo fel rhoi'r gora' i fynd yna. Ddoe ddwytha' yr oeddwn i'n deud wrth Shinc—wrth dad Gomer—fy mod i'n colli fy ngwynt yn lân ...'

"Ond 'dyw a ddim yn mynd lawr i'r Workmen's 'nawr, Wncwl."

"O, mi fedra' fo fynd i lawr yno bob bora 'tasa' fo isio, ond, fel y gwyddost ti, mae'r papura' newydd 'na fel pe'n trio dychryn pobol y dyddia' yma ac mae'n well iddo fo beidio â'u darllan nhw. Mae'r rhyfel 'na yn Sbaen yn ddigon i godi ofn ar ddyn."

"Digon o awyr iach a gorffws 'wedodd y Doctor, ontefa?"

"Ia. Paid ti â phoeni amdano fo, 'ngwas i.... Nos dawch rwan."

"Wncwl William?"

"Ia?"

"Ma' sgîm 'da fi."

"O?"

"Ôs, i fynd â fa mas i'r wlad. Ma' tandem 'da Mr. Lewis a ma' fa 'di addo'i fencid a i fi."

"I be', dywad?"

"Fe all Dada ishta arno fa, dim ond ishta'n dawal fach, a fe wna' i bopath arall. Fe fydd a'n cal digon o awyr iach weti 'ny, on' fydd? Beth ych chi'n feddwl o'r sgîm, Wncwl?"