Tudalen:William-Jones.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dim llawar, mae arna' i ofn."

"Pam?"

"Tasa' pob gallt yn rhedag i lawr a byth yn mynd i fyny, mi fasa'r cynllun yn un go lew, wsti. Ond be' wnei di wrth orfod dringo?"

"O, 'i bwsho fa. 'Fydd dim rhaid i Dada ddod lawr, 'ych chi'n gweld. 'Odi'r sgîm yn O.K., Wncwl?"

"Mae 'na ddau wrthwynebiad yn dwad i'm meddwl i, fachgan."

"Beth nhw?" "Yn y lle cynta', 'fedrat ti mo'i wthio fo i fyny gallt serth."

"Na allwn i!"

"Na fedrat. Mae dy dad yn ddyn go fawr, wel 'di."

"Pwy sy'n gweud na allwn i ddim mo'i bwsho fa?"

"Dos i gysgu 'rŵan, 'ngwas i. Mi wyddost un mor sâl wyt ti am godi yn y bora."

"Pwy sy'n gweud na allwn i ddim mo'i bwsho fa? 'Odych chi'n barod i mi drio'ch pwsho chi?"

"Ac yn yr ail le, 'fydda' dy dad ddim yn fodlon iti 'i wthio fo drwy ganol pobol—i fyny'r allt ym Mryn Glo 'ma, er enghraifft. Mae dyn sâl yn groen—dena', wsti."

On i ddim wedi meddwl 'i bwsho fa lan trw' Fryn Glo. Meddwl mynd ar yr hewl dop 'on i a lawr drw' Alfred Street a Stub Street i hewl Ynys-y-gog."

"Fedrat ti byth mo'i wthio fo'n ôl i fyny Alfred Street, Wili bach. Dos i gysgu 'rwan, 'machgan i."

"Odych chi'n ddigon o sbort i drio, 'ta'?"

"Trio be'?"

"Ma' half-day 'da 'fory. 'Odych chi'n gêm i ddod 'da fi ar y tandem i Ynys-y-gog?"

"Ond 'fedra' i ddim reidio beic, Wili John. Dos i gysgu, 'r hen ddyn."

"S dim ots am 'ynny. Fi fydd yn reido a dim ond ishta arno fa fyddwch chi, Wncwl. 'Odych chi'n gêm?"

"O, o'r gora', ond dos i gysgu, da chdi."

"Nos da, Wncwl."

"Nos dawch, 'ngwas i."

Trannoeth, pan ddaeth Wili John adref i'w ginio, gwthiodd dandem i orffwys yn erbyn mur y tŷ. Cofiodd William Jones yn sydyn fod arno eisiau dychwelyd rhyw bapur Comiwnyddol i dŷ Shinc.