Tudalen:William-Jones.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"I b'le 'ych chi'n mynd, Wncwl?"

"Isio rhedag â hwn i dŷ tad Gomer. 'Fydda'i ddim dau funud."

"Ma' fa mas."

"Ymh'le?"

"Yn Nhre Glo. 'Odd a'n mynd i ddala'r bws pan on i'n dod sha thre. Gomer!"

Daeth Gomer Rees i mewn atynt o'r stryd; ef oedd gwar—chodwr y tandem.

"Cer â'r papur 'ma i'r tŷ. A gwed taw o' wrth Wncwl William ma' fa."

"O.K."

Estynnodd William Jones y papur i Gomer.

"Diolcha di i'th dad drosta' i pan ddaw o adra o Dre Glo, a dywad wrtho fo ..."

"Tre Glo?" Edrychodd Gomer braidd yn syn, ond gwelodd y winc a roes Wili John arno.

"Mi bicia' i i lawr i'r Post 'rŵan, tra bydda' i'n cofio, Meri."

A thynnodd William Jones o'i boced lythyr a ysgrifenasai at Fob Gruffydd.

"Post 'di cau," meddai Wili John â'i geg yn llawn o fwyd.

"O, mi werthith David Morgan stamp imi, yr ydw i'n siŵr.

"Mae gin i stamp yn y jwg 'na," meddai Meri, ac ni ddeallai o gwbl pam y tremiai ei brawd mor hyll arni.

"Reit. Fe'i postiwn ni fa yn y pillar—box yng ngwaelod Stub Street, Wncwl."

Nid oedd modd dianc, ac wedi iddo draflyncu'i ginio, arweiniodd Wili John ei ewythr allan i edmygu'r tandem. Daeth Mot gyda hwy, gan brancio a chyfarth mewn llawenydd mawr fel petai yntau am gael marchogaeth y peiriant. Llwyddodd Gomer Rees i gydio yn ei goler a'i dynnu i mewn i'r tŷ, ac yna i ffwrdd â hwy ar hyd y ffordd ddibreswyl a redai uwchlaw'r pentref i ben Alfred Street. Ceisiai William Jones ymddangos yn ddifater, ond pan roed y beic i bwyso yn erbyn y clawdd uwch serthni Alfred Street, llyncai ei boer mewn ofn.

"Reit, Wncwl?"

"Ond 'fedra' i ddim reidio'r peth, Wili John."

"S dim isha i chi, dim ond ishta arno fa, w."

"Ia, ond 'fedra' i ddim cadw fy nghydbwysedd."