Tudalen:William-Jones.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Fe ofala' i am 'ynny, Wncwl, dim ond i chi ishta'n stedi. 'Odych chi'n moyn y dop côt 'na?"

"Wel, nac ydw', am wn i, fachgan. Mi reda' i â hi'n ôl i'r tŷ. 'Fydda'i ddim chwinciad."

"Gomer!"

Dilynasai bachgen Shinc hwy o hirbell. Rhedodd tuag atynt yn awr.

"Cer â thopcôt Wncwl William yn ôl i'r tŷ, Gomer. A beth am y fowlar 'na, Wncwl, rhag ofn i'r gwynt 'i hwthu hi i goll."

Tynnodd William Jones ei gôt fawr a'i het galed, a cheisiodd Gomer edrych mor ddifrifol â sant wrth eu cymryd oddi arno. Yna safodd gerllaw i wylio'r ymadawiad.

"Dos â nhw 'rŵan, Gomer, 'ngwas i," meddai William Jones, gan deimlo braidd yn yswil mewn cwmni.

"O.K." Ac ymaith â Gomer yn araf deg yn wysg ei gefn. Rhoes y chwarelwr droed pryderus ar y droedlath, a chydiodd â'i law chwith ym mraich y peiriant. Gafaelodd â'i law arall mewn clwmp o redyn a dyfai uwchben y clawdd, ond yn lle ei godi ei hun yn bwyllog a gofalus, ceisiodd roi naid wyllt ar gefn y tandem. Yn anffodus, rhyw redyn wedi hen flino ar bridd caregog pen y clawdd oedd hwnnw ac yn falch o ryw esgus i'w ddiwreiddio ei hun. Aeth William Jones ar ei wyneb tros freichiau'r beic.

Bu'r ail gynnig yn fwy llwyddiannus. Cydiodd yn un o gerrig y clawdd y tro hwnnw, a llwyddodd i eistedd ar y tandem o'r diwedd.

"Aros, Wili John, aros, hogyn!"

"Nid fi sy'n 'i bwsho fa, Wncwl. Chi sy'n gwasgu ar y pedal."

Coesau William Jones a oedd yn rhy fyr, ac felly rhoddai ei bwysau ar yr uchaf o'r ddwy droedlath, gan ddechrau gyrru'r peiriant i lawr yr allt. Ond llwyddodd Wili John i'w arafu a'i ddal yn wastad. Erbyn hynny daethai'r droedlath arall yn uwch a gallai traed y marchog fod yn gytbwys ar y ddwy wedyn.

"Odych chi'n reit 'nawr, Wncwl?"

"Ydw', am wn i, wir, fachgan. Ond yr ydan ni'n siŵr o dorri'n coesa', wsti."

"Na, ma' brêcs da ar hwn. Citshwch chi yn y clawdd tra fydda' i'n neido arno fa."