cloc-larwm. "Un bach da ydi o hefyd."
"Diolch yn fawr. Dim ond nes ca' i amsar i brynu un. Wel, da boch chi 'rŵan."
"Mi faswn i'n gofyn i chi gymryd tamad hefo Bob ond 'mod i'n gwbod bod y wraig yn eich disgwyl chi," meddai Jane Gruffydd wrth ei hebrwng at y drws.
"Y wraig," meddai William Jones wrtho'i hun. Rhyfedd fod pobl yn sôn am Leusa fel "y wraig" yn lle ei galw wrth ei henw. Rhyfedd iawn, wedi meddwl am y peth. Am "Jane" a "Jane 'cw" y soniai ef, William Jones, wrth Bob pan ddôi rhywbeth am Jane Gruffydd i mewn i'r sgwrs. Ond dyna fo, ni fu Leusa erioed yn un gyfeillgar iawn hefo neb. Diawch, gobeithio bod Huws y Deintydd wedi llwyddo i drwsio'r dannedd yna.
PENNOD II
DIWRNOD I'R BRENIN
Y Mae'n debyg fod y darllenydd ar bigau'r drain ers meitin. heb wybod beth a ddigwyddodd i ddannedd-gosod Leusa Jones. O fwriad y cadwyd ef yn y tywyllwch, gan fod medru gwneud i filoedd ar filoedd o ddarllenwyr gnoi eu hewinedd yn enghraifft o athrylith y nofelydd. Gwn, ddarllenydd hynaws, dy fod yn methu â byw yn dy groen ers chwarter awr, a brysiaf i ddiwallu dy chwilfrydedd. Cofiaf imi ddarllen nofel yn fy ngwely ryw dro. . .. Ond rhaid imi ateb dy weddi a mynd ymlaen â'r stori hon.
Pan ruthrodd Leusa Jones i ddôr y cefn yn ei choban, â'i dannedd-gosod yn ei llaw, ni chymerodd ei gŵr un sylw ohoni, dim ond rhedeg am ei fywyd i gyfeiriad y chwarel. Erbyn iddo gyrraedd y llwybr i'r gwaith, penderfynasai ei wraig yn drist y byddai'n rhaid iddi fodloni ar dipyn o uwd i frecwast, a rhoes y darn o gig moch yn ei ôl yn y cwpwrdd- dan-grisiau. Yr oedd tamaid o gig moch mor flasus yn y bore, hefyd, ond ar ôl i'r ffŵl yna. . . Taflodd Leusa Jones ei phen ddwywaith neu dair yn ddig, a rhoes gic ffyrnig i'r gath. A hithau wedi meddwl mynd am dro i Gaernarfon. heddiw i drio un neu ddwy o'r hetiau newydd hynny yr oedd