Tudalen:William-Jones.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi i'w ewythr lwyddo i gamu o'r neilltu yn y cyntedd cul, gwthiodd Wili John y beic yn ôl i'r stryd. Crafodd dipyn ar y drws wrth fynd allan.

"Fe fydd isha peinto hwn 'nawr," meddai'r dyn blêr yn drisi "Fe gostith 'weigen i fi."

"Alwch y bil i'r offis 'co," oedd sylw parod Wili John wrth droi ymaith.

Tawedog iawn oedd y ddau wrth ddringo'r allt tuag adref. Chwibanai Wili John bob tro yr âi heibio i bobl ar y stryd, ond tawai wedyn nes dyfod at y rhai nesaf. Ceisio cymryd arno nad oedd ganddo ef un cysylltiad agos â'r peiriant a wnâi William Jones, gan ddatblygu diddordeb eithriadol yn nrysau a ffenestri'r tai.

Tynnent at ben Alfred Street pan gofiodd am y perygl enbyd yr oedd Crad ynddo.

"Wili John?" "Ia?"

"Wyt ti'n cofio'r ddadl gawsom ni ynglŷn â gwthio dy dad i fyny gallt go serth?"

"Odw'."

"Beth petawn i'n ista ar y peth 'ma 'rŵan a thitha'n drio fy ngwthio i? Mi gei di weld mor anodd fydd hi."

"Odych chi'n credu na alla' i ddim?"

"Ydw'."

"Reit. Lan â chi."

Dringodd William Jones i'r sedd ôl, a gwyrodd yn beryglus a bwriadol i un ochr. Yr oedd dal y peiriant yn wastad yn fwy nag a allai Wili John ei wneud.

"Dych chi ddim yn balanso, w."

"Rhaid iti gofio 'i fod o'n waith go anodd, 'ngwas i, a'r peth ddim yn mynd. Mi driwn ni eto."

Yr un fu eu profiad yr ail a'r trydydd tro, ac ar y pedwerydd syrthiodd William Jones a'r tandem yn llipa i'r ffordd.

"Un waith eto, Wili John."

"No ffiar. Nid fi sy bia'r tandem."

Pan ddaethant i Nelson Street, yr oedd y gôt fawr a'r het galed newydd gyrraedd o'u blaen, meddai Meri. Newydd gyrraedd? Ni ddeallai William Jones hynny o gwbl. Os nad oedd y Gomer Rees bach 'na wedi aros ym mhen y rhiw a'u dilyn wedyn i weld y ras. Ac wrth iddo feddwl am y peth, gwelsai rywun go debyg iddo'n sleifio drwy'r lôn fach yng