Tudalen:William-Jones.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghefn Stub Street. Ond efallai mai gwneud cam â'r bachgen Cafodd Wili John dafod gan ei dad pan glywodd ef hanes yr helynt, ac yna brysiodd Crad i'r parlwr i nộl rhywbeth. Gan iddi ei glywed yn pesychu'n o ddrwg yno, aeth Meri ato cyn hir, a dychrynodd wrth weld y dagrau yn ei lygaid.

"Be' sy, Crad bach?" gofynnodd.

"Mi rown i bumpunt am weld William ar gefn y tandem 'na pnawn 'ma. Ond ydyn nhw'n ddau o rai da!" A bu bron i Grad â thagu wrth chwerthin.

Ar y dydd Mercher cyntaf ym Medi y digwyddodd hyn, a buasai'r pentref yn ferw drwyddo ers rhai wythnosau. Dole neu beidio, yr oedd yn rhaid i Fryn Glo gael cynnal Carnifal yr Ysbyty y prynhawn Mercher wedyn. Hoffwn iti ailddarllen y frawddeg uchod, ddarllenydd hynaws, ac yna eistedd yn ôl i weld ei llawn ystyr mewn darluniau lliwgar. Efallai iti deithio yn Llydaw neu Iwerddon, ond oni welaist ti Garnifal yr Ysbyty ym Mryn Glo, ni welaist ti ddim byd erioed. Rhoddai'r paratoi ar ei gyfer waith i'r di—waith am ddeufis cyfan, a mawr oedd y cyffro a'r prysurdeb fel y nesâi'r Dydd. Mentrodd rhyw ddyn crefyddol, â hysbyslen enfawr ar ei gefn, ddadlau nad oedd gan drueiniaid gwael y llawr, yn arbennig rhai a oedd yn byw ar elusen, hawl i ymhyfrydu mewn gwag beth fel carnifal; aed ag ef yn syth i'r Ysbyty pan lwyddodd Sam Pierce ac eraill i'w lusgo ef a'i hysbyslen o'r afon.

Rhannau pwysicaf y Carnifal, wrth gwrs, oedd y bandiau gasŵc (sut goblyn y mae sbelio'r gair, ni wn i ddim, ond gwyddost beth yw gasŵc—yr offeryn—ceg bychan hwnnw sy'n gwneud sŵn fel canu drwy grib â phapur amdani), ond ceid hefyd, ymhlith pethau eraill, gystadleuthau i geisio darganfod merch brydferthaf a babanod brafiaf yr ardal. A chyda'r nos, wedi i'r band buddugol ddianc i'r Miner's Arms ac i'r Frenhines fynd i grwydro'r pentref yn falch—ddifater ac i'r babanod dychrynedig syrthio i gwsg anesmwyth yn eu gwelyau, cynhelid mabolgampau.

Er ei fod ef yn rhy brysur yn y siop i gymryd rhan flaenllaw yn y trefniadau, diwrnod mawr i Wili John oedd dydd y Carnifal, ond poenid ef yn arw gan y newydd na allai ei dad fentro i lawr i'r pentref i wylio'r orymdaith.

"Wncwl William?"