Tudalen:William-Jones.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gaseg yn araf a phwyllog i lawr y pentref, a dau ŵr yn y cart a dynnai yn gwenu a nodio ar bawb ar fin yr heol. Medrodd yr un cloff lusgo gyda'r llall i mewn i Neuadd y Gweithwyr am ryw hanner awr, ac yna dringodd y ddau eilwaith i'r cart i gael golwg ar yr orymdaith a ddeuai heibio cyn hir. Gan fod tipyn o godiad tir wrth ochr y Neuadd, yr oeddynt mewn lle pur fanteisiol i fwynhau'r olygfa. Yn ffodus, nid oedd ond ychydig o bobl ar ochr y ffordd yn y fan honno; tyrrai'r rhan fwyaf yn is i lawr, i gyfeiriad siop yr Eidalwr a'r tro heibio i'r orsaf ac i'r cae.

"Dal di ben y gasag 'na'n llonydd, cofia, ne' ar ein penna' dros ochor y cart 'ma y bydd Wncwl William a finna'," meddai Crad pan glywodd sŵn y bandiau yn y pellter.

Cerddodd Sam Pierce a dau blisman o Dre Glo ar flaen yr orymdaith, a dilynwyd hwy gan y band cyntaf. Yn benderfynol o gipio'r decpunt o wobr, o'r cwm nesaf y daethant hwy, ac edrychai pawb arnynt gydag edmygedd oherwydd iddynt ennill mor aml o'r blaen mewn gwahanol leoedd. Goliwogiaid oedd yr aelodau, pob un wedi clymu ei drowsus yn dynn am ei fferau ac yn gwisgo côt fer a'i chotwm yn streipiau glas a gwyn. Am eu gyddfau yr oedd coler fawr wen a bwa an—ferth o ruban coch. Wynebau duon a oedd iddynt, wrth gwrs, a pheintiasai pob un gylch gwyn o amgylch ceg a llygaid. Ar eu pennau, gwallt trwchus o wlân du. Cerddent yn urdd—asol, a sicrwydd buddugoliaeth ym mhob cam, yr unig fand a chanddynt wisg barod. Ond chwarae teg i bobl Bryn Glo, rhoesant "Hwrê!" cynnes i'r dieithriaid ffyddiog hyn.

O'u hôl hwy, deuai lorri ac arni'r geiriau "THE EMPORIUM—CLOTHES FOR ALL AGES." Ynddi eisteddai hen hen wraig â phlentyn ar ei glin, ac o'i chwmpas hi safai pedair o rai eraill—geneth fach fel petai ar gychwyn i'r ysgol, merch tua deunaw, gwraig a oedd i gynrychioli rhywun deu—gain oed, ac un arall y dywedai ei gwisg ei bod tua thrigain. Cawsai Jenkins yr Emporium fenthyg y baban am ddwy awr ar yr amod bod ei chwaer, Barbara Amelia, yn cael ymddangos fel y ferch-ysgol yn y darlun. Prin yr oedd gan Jenkins hawl i ddadlau bod llygaid croes gan Barbara Amelia, ac wedi'r cwbl, gwisg y ferch a oedd yn bwysig. Yr eneth ddeunaw oed oedd honno a werthasai'r anrhegion Nadolig i William Jones, ond yn lle'r ffrog ddu a wisgai yn y siop, yr oedd amdani ddillad a dynnai sylw hyd yn oed yn Ascot. Mrs. Jenkins