Tudalen:William-Jones.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y wraig tua deugain. Na, nid dweud yr wyf fod Mrs. Jenkins yr Emporium tua deugain oed—yr oedd ei merch, Sally, dros ei deg ar hugain—ond gwnâi ymdrech deg, er ei bod hi mor dew, i berthyn i'r dosbarth hwnnw. Wrth ei hochr hi, gan geisio dangos i'r byd sut i heneiddio'n hardd, safai mam esgyrniog Jack Bowen. Nid oedd hi na hen na hardd, ond gan ei bod hi mor gyfeillgar â'i wraig ac wedi ei chynnig ei hun i'r swydd, beth a allai Jenkins druan ei wneud, onid e?

Tu ôl i'r lorri, gwthiai Dai Llaeth goits babi. Ynddi, yn edrych yn bur anghysurus â'i liniau bron â chyffwrdd ei ên, eisteddai Eic Hopkins yn sugno potel fabi ac yn wên o glust i glust. Eic oedd gŵr tewaf y pentref a chwsmer gorau'r Miner's Arms. Sut y llwyddasai i ddringo i mewn i'r goits a oedd yn ddryswch mawr, ond câi am ei drafferth, ac am chwifio filag ac arni'r cyngor DRINK MORE MILK, bris pedwar peint o lefrith go dywyll ei liw. Taflai Dai Llaeth olwg pryderus ar olwynion y goits bob rhyw bum llath, ond er bod un ohonynt yn gwegian yn o beryglus, yr oedd ynddo lawn hyder ffydd y cyrhaeddai'r cae'n ddiogel. A phe digwyddai rhyw anffawd—wel, ei goits ef oedd hi, a gallai Eic gerdded. Dilynwyd hwy gan Ardd Eden ar olwynion. Anogai Adda ac Efa, â matiau o groen amdanynt a dail a blodau o bob math o'u hamgylch, bawb i fwyta mwy o ffrwythau. "Oi, Jim, shwd ma' hi'n dishgwl am un o'r bananas 'na, bachan?" gwaeddodd un o'r edrychwyr, a bu Jim yn ddigon annoeth i ddilyn yr awgrym. Lle go gyffrous fu Gardd Eden wedyn, gan i amryw o'r dyrfa, a'r plant yn arbennig, gredu bod yr haelioni hwn yn rhan hanfodol o'r darlun. "Shgwlwch, 'Mam, 'cw mat parlwr ni!" meddai'r ferch fach a gododd William Jones yn ei freichiau i gael gwell golwg ar yr orymdaith.

Yna, gan edrych yn ffyrnig a ffroenuchel, camodd band yr Indiaid Cochion heibio. Collasai llawer hen geiliog ei gynffon y bore hwnnw, ac addurnai'r plu yn awr benwisg y gwŷr urddasol hyn. Lliwiasent eu croen yn goch o'u talcen i'w gwasg, ond yr oedd hi'n amlwg na pherthynai pob un ohonynt i'r un llwyth, gan fod gwahaniaeth dirfawr rhwng ambell goch a'i gilydd. Sachau oedd deunydd eu llodrau, ac i lawr yr ochrau allanol rhedai ymylon anwastad fel crib ceiliog; gwelid arnynt hefyd ystaeniau cochion lle sychasai'r Indiaid eu dwylo