Tudalen:William-Jones.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn ailgydio yn eu hofferynnau cerdd. Nid edrychai'r gwŷr hyn i dde nac aswy, dim ond camu ymlaen yn filain eu trem; eu prif gamgymeriad oedd dewis darn cerddorol nad oedd yn debyg o fod yn boblogaidd ymhlith Indiaid Cochion o unrhyw lwyth—"Gwŷr Harlech."

THE BEAUTY OF BRYN GLO a oedd ar y lorri nesaf, ac addurnwyd hi â brigau gwyrddion a blodau amryliw. Ynddi safai rhyw ddwsin o rianedd teg, o bob lliw a llun—wel, o bob llun, beth bynnag. Ymgeiswyr am yr anrhydedd o fod yn Frenhines Harddwch oeddynt, a châi'r un a goronid ddwy gini a chymeradwyaeth fawr. Yr oedd rhai ohonynt fel duwiesau balch yng nghanol y dail a'r blodau, ac ymddangosai eraill yn ddifater, fel pe'n synnu eu darganfod eu hunain yno o gwbl. Safai'r gweddill yn yswil ac ofnus, gan edifarhau iddynt fentro wynebu'r dyrfa ar y strydoedd. Yr hogan fach nerfus 'na yn y ffrog las a ddewisai William Jones petai ef yn feirniad; yr oedd hi braidd yn debyg i gariad Arfon. Nid yr eneth yna a oedd wedi lliwio'i gwallt bron yn wyn, yr oedd ef yn sicr o hynny. Y gnawes fach bowld iddi hi!

Tynnai'r lorri nesaf lawer o sylw, yn arbennig ymhlith yr ifainc. KEEP FIGHTING FIT ON PRICE'S PILLS oedd y geiriau arni, a rhwymwyd rhaffau o bolyn i bolyn i gynrychioli llwyfan bocsio. Yr oedd dau focsiwr ar y llwyfan hwn, un yn swp wrth y rhaffau wedi hen 'laru ar yr ornest, a'r buddugwr, Gomer Rees, yn ysgwyd dwylo ag ef ei hun ac yn gwenu a nodio ar bawb. Pan gychwynasai'r orymdaith, yr oedd y ddau focsiwr yn gyfeillion mawr ac yn ddiolchgar i Price, y fferyllydd, am roddi iddynt hanner coron yr un. Ni fwriadwyd o gwbl i Gomer gymryd y peth o ddifrif. Daeth y trydydd band heibio, dynion duon o ddyfnder yr Affrig, pob un yn 'sgleinio ar ôl triniaeth y brwsh blacléd. Yr oedd cylchoedd pres, a fuasai'n cynorthwyo i ddal llenni'r parlwr, yn hongian wrth eu clustiau, ac am eu gyddfau gwisgent bob math o bethau—gleiniau, aeron, a hyd yn oed afalau bach-coch-cynnar. Ychydig arall a wisgent ar wahân i'r trons cwta am eu canol a'r esgidiau amryfal am eu traed. Digon yw dywedyd bod ambell un yn rhy dew ac arall yn rhy denau i fedru fforddio gadael eu dillad gartref. Ond ni churwyd drwm erioed yng nghanolbarth yr Affrig â mwy o frwdfrydedd nag y chwythai pob un o'r rhai hyn ei gasŵc.