Tudalen:William-Jones.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beiciau wedi'u haddurno a ddilynai'r dynion duonon—un fel llong hwyliau, yr ail fel awyrblan, eraill yn rhubanau lliwgar i gyd. Pan ddaeth yr hen Foses Isaac heibio ar ei "geiniog a ffyrling," rhoes pawb "Hwrê!" fawr iddo. Cadwai'r hen Foses y beic yn barchus yn y cwt yn y cefn, a dim ond rhyw unwaith y flwyddyn fel hyn y dygai ef i olau dydd. Ef a enillai'r wobr bob gafael. Tu ôl iddo ef, y cerddwyr—pâr tua saith mlwydd oed newydd briodi, a'r priodfab mewn dagrau am fod ei het silc yn gwrthod sefyll ar ei glustiau ar waethaf cymorth y Person; Charlie Chaplin yn tynnu ystumiau; dyn tebyg iawn iddo, brodor o'r Almaen, yntau'n tynnu ystumiau ac yn dal ei law i fyny i gyfarch pawb; un arall o'r Eidal, gŵr tew a oedd yn ên ac yn fedalau i gyd; Dai Loshin yn ei het fowler a'i jersi goch, yn cario pêl a bwyta cenhinen; a hen fenyw fach Cydweli yn ei gwisg Gymreig yn rhifo'i loshin du. Ac yn gynffon i'r orymdaith daeth peiriant newydd y Brigad Tân, ac edrychai'r gwŷr yn hardd yn eu helmau gloyw a'u hesgidiau uchel. Canai'r Capten y gloch yn ffyrnig, a chredodd amryw fod tân yn y pentref o'r diwedd.

Trosglwyddodd William Jones y ferch fach a ddaliai yn ei freichiau i'w mam, ac yna dechreuodd Wili John wthio pen y gaseg yn ôl tua'r stryd.

"Hannar munud, was!" gwaeddodd Crad. "I b'le'r wyt ti'n mynd?"

"Ar ôl y prosesion, Dada."

"O'n wir! Os wyt ti'n meddwl fy mod i'n mynd i ddilyn y crowd 'na, yr wyt ti'n gwneud coblyn o gamgymeriad."

"Ond pam, w?"

"Am y rheswm syml y bydd pobol yn credu ein bod ni'n rhan o'r Carnifal, 'ngwas i. Mi arhoswn ni yma nes bydd y ffordd yn glir."

Wedi i ryw bum munud fynd heibio, ac nid cynt, cytunodd Crad ei bod hi'n bryd iddynt gychwyn am y cae. Nid oedd fawr neb ar yr heol, ond pan droesant o'r ffordd bost tua'r Orsaf, fe'u cawsant eu hunain wrth gynffon yr orymdaith—yr oedd y clwydi mawr pren ar y groesffordd tu draw i'r stesion ynghau nes i'r trên pump fynd heibio i Gaerdydd. Penderfynodd tyrfa o fechgyn anystyriol roi banllef o groeso iddynt, a rhuthrodd llu o bobl yn ôl i ddarganfod achos y cynnwrf. Canodd Capten y Brigad Tân hefyd ei gloch, a chredodd y