Tudalen:William-Jones.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gaseg mai gwahoddiad iddi hi i ymladd y rownd nesaf oedd y Sŵn. Cododd ei phen yn wyllt a chamodd ymlaen, gan roi plwc sydyn i'r cart a gyrru Crad a William Jones yn bendramwnwgl. Ond llwyddodd Wili John i'w darbwyllo, gan egluro iddi mai gan Gomer Rees, ac nid ganddi hi, yr oedd yr hawl i focsio. Ailgychwynnodd yr orymdaith ymhen ennyd, ac yn y cae, ymunodd Crad a William Jones â'r hanner cylch a wyliai'r beirniaid yn ceisio dewis y tawelaf o'r babanod gwichlyd. Gadawsent Wili John i ofalu am Queen a'r cart, gan addo dychwelyd cyn gynted ag y byddai'r cystadleuthau drosodd, er mwyn i'r bachgen gael brysio adref i hebrwng y claf a'r cloff ac yna ruthro'n ôl i ennill y ras-rwystrau yn y mabolgampau.

Y rhianedd teg a ddringodd i'r llwyfan yn nesaf, ac yr oedd William Jones yn falch iawn pan enillodd y ferch fach nerfus yn y ffrog las. Beirniaid doeth, meddai wrth Crad. Rhoed i'r hen Foses Isaac ei gini flynyddol am ddwyn ei "geiniog—a—ffyrling" allan o'r cwt yn y cefn i lawr i'r cae, a chafodd Hitler wobr am dynnu ystumiau. Yna safodd pob lorri yn ei thro o flaen llwyfan y beirniaid. Erbyn hyn, codasai gwrth—wynebydd Gomer Rees, gan benderfynu dangos i'r byd na phallai'r nerth a oedd yn PRICE'S PILLS. Dawnsiai ef a Gomer Rees ar y lorri, ond eto unwaith, anghofiodd dwrn de Gomer mai cymryd arno daro oedd ei ddyletswydd ac, am yr ail dro mewn prynhawn byr, lloriwyd y llanc arall a syrthiodd yn llipa i hongian tros y rhaffau. Chwarddodd y beirniaida rhoi'r wobr iddynt.

Yna'r bandiau. Yr oedd hi'n dechrau glawio, a gwelai pawb na fwriadwyd inc coch yr Indiaid na blacléd y dynion duon ar gyfer tywydd gwlyb. Er hynny, canodd y ddau gôr hyn yn dda iawn, er bod blas go anfelys yng ngheg pob gŵr fel y rhedai'r glaw i lawr ei wyneb ac i'w safn, ac uchel oedd cymeradwyaeth y dorf pan ddyfarnodd y beirniaid y dynion duon yn orau. Edrychai'r Goliwogiaid yn ddig, ac anfodlon braidd oedd camau'r Prif Oliwog tuag at y Prif Ddyn Du i'w longyfarch. Ond pan dynnodd hwnnw wig y llall a'i gwisgo o ran hwyl, anghofiwyd pob gelyniaeth mewn chwerthin. Gwelodd William Jones fod Crad yn llwyd ac oer.

"Rhaid inni 'i throi hi adra 'rŵan, Crad," meddai. "Mae fy ffêr i'n boenus iawn ers meitin, fachgan. Tyd."