ddyfeisient yno. Os oedd y ddau yna'n meddwl cael hwyl am 'i ben o, yr oeddan' nhw'n gwneud coblyn o gamgymeriad. Ond daria unwaith, yr oeddan nhw wedi llwyddo'r tro yma, yr oedd hi'n rhaid iddo gyfaddef. Oeddan'.
A phob cam i'r tŷ, ar droed William Jones yr oedd llygaid ffyrnig Crad.
PENNOD XV
UN GARW
Y MAE'n hen bryd imi sôn am Leusa Jones. A dweud y gwir, ddarllenydd hynaws, yr oeddwn wedi llwyr anghofio am y ddynes. Nid felly William Jones: rhoddai ambell atgof am Lan-y-graig a'i hen gartref bigiad gwenynol i'w gydwybod, a theimlai'n bur annifyr weithiau mewn cwmni pan godai rhywun go fusneslyd gwestiynau am ei fywyd fel chwarelwr. Ac yn bur aml llithrai ef ei hun yn ddifeddwl i sôn am ei wraig. "Yr ydw i'n cofio Leusa a finna'..." neu "Mi welis i Leusa 'cw ryw dro ..."—a thawai'n sydyn a ffwndrus, fel gwr wedi'i ddal yn dweud clamp o gelwydd.
Nid ysgrifennai at Leusa o gwbl yn awr. Ar y cyntaf sgriblai nodyn i obeithio y cyrhaeddai'r arian hi yn fyw ac yn iach fel y gadawai ef ar hynny o bryd ac i fynegi bod y tywydd yn braf neu'n wlyb a bod y teulu yn Nelson Street yn cofio ati. Ond buan y sylweddolodd nad oedd y llythyr yn gampwaith llenyddol, a bodlonodd ar daro'r arian mewn amlen heb drafferthu i lunio gair at Leusa. Câi beth o'i hanes hi a'i brawd weithiau yn llythyrau Bob Gruffydd, a derbyniasai un epistol hir a gwasgarog oddi wrth Twm Ifans yr Hendre yn cofnodi holl helyntion pawb yn y pentref. Yr oedd ôl cof a chwilfrydedd yr hen wraig, ei fam, ar y llythyr, a gallai William Jones ddychmygu'r sefyllfa ... "Ddeudist ti wrtho fo fod gwraig Wil Sionc yn methu â symud hefo'i phen glin?... "
Cawsai Leusa dipyn o fraw pan ddiflannodd ei gŵr i'r De, ond dywedai wrthi ei hun y troai yn ei ôl cyn pen wythnos. Gwelodd cyn hir fod William Jones o ddifrif, a bu'n rhaid iddi fynd ati i geisio byw'n gynilach Daliai i grwydro i Gaernarfon pan oedd arian ganddi, ac nid oedd dim a'i