Tudalen:William-Jones.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadwai draw o'r sinema bob nos Lun a nos Iau Y rhent? Twt, fe allai hwnnw fynd i'w grogi am rai misoedd: yr oedd yn rhaid i rywun gael rhyw bleser mewn bywyd, chwedl y ferch honno yn y siop—hetiau yng Nghaernarfon Ni chytunai'r hen Sally Davies, perchen y tŷ, â'r safbwynt hwn, a galwodd i egluro'n gwynfanllyd ei bod hi'n weddw ac yn dlawd a bod llawer o gostau ar hen dai a'r trethi'n uchel a phobl yn bur anghofus weithiau Addawodd Leusa dalu'r rhent drannoeth—gan anghofio'n llwyr iddi drefnu mynd draw i'r Rhyl i weld ei chyfnither

Yna daeth ei brawd i fyw ati Gwerthodd ei ddodrefn bron i gyd, ac wedi gosod ei dŷ, fe'i gwnaeth ei hun yn gysurus hefo'i chwaer. Punt yr wythnos a dalai iddi, ond gan ei fod yn fwytawr go fawr, bu'n rhaid i Leusa ofyn iddo am goron arall cyn hir. Yn anfoddog iawn y cytunodd Ifan Davies, ond llwyddodd i godi rhent ei dŷ ei hun i gyfarfod y draul. Dechreuodd Leusa wnio ychydig hefyd i ennill tipyn o arian. Ond ni bu llwyddiant mawr ar yr ymdrechion hynny. Addawsai'r wisg neu'r sgyrt yn ddiffael erbyn diwedd yr wythnos, ond pan alwai'r cwsmer pryderus, byddai'r wniadwraig yng Nghaernarfon neu yn y Rhyl neu rywle, a'r dilledyn heb ei gyffwrdd. "Dim amsar," oedd esgus Leusa tros roi'r gorau i'r gwaith yn gyfan gwbl ymhen mis neu ddau.

Susan, gwraig Huw Lewis, a dorrodd y newydd iddi fod William Jones yn cyflawni gorchestion tua'r De. Cawsai Bob Gruffydd air oddi wrth ei hen bartner yn sôn am "Y Chwarelwr," ac aethai Bob, er yr hoffai "wneud i ffwrdd" â'r radio, o gwmpas y Bonc Hir i adrodd yr hanes. William Jones? Wil Leusa? Ni ddeallai neb y peth o gwbl, a daliai Dic Trombôn mai bwyta gormod i swper a wnaethai Bob Gwneud-i-Ffwrdd ac i'r lobscows greu breuddwydion rhyfedd.

Yn Siop Ucha' y cyfarfu Susan a Leusa. Gwelent ei gilydd yno bron bob bore, gan mai dull Llan-y-graig o siopa oedd rhedeg allan am chwarter o gig moch neu baced o bowdwr—golchi a dychwelyd hefo gwerth rhyw sylltyn o nwyddau a gwerth punnoedd o newyddion yr ardal. Byddai'n rhaid i Forus Bach, y siopwr, guro'r cownter yn ffyrnig bob hyn a hyn i ofyn am osteg iddo gael clywed llais un o'i gwsmeriaid. Barn y clebrwyr prysuraf oedd bod y dyn yn drwm ei glyw.

"Pwy fasa'n meddwl, yntê!" meddai Susan.

"Be'?" gofynnodd Leusa.