"Rhwbath arall, Mrs. Jones?" Gwelai Morus fod cymeriad rhywun yn y glorian.
"Na, dim diolch." Yna, gan deimlo bod llygaid Susan arni, penderfynodd Leusa brynu tun neu ddau."O, mi fu bron imi ag anghofio, wchi. Tun o samon a thun o'r peaches 'na. 'Rydw i'n ffond ofnadwy o peaches. Ia, tun mawr, Mr. Morus."
"A fynta'n un bach mor ddiniwad!" chwanegodd Susan.
"Pwy? ... Ia, y samon gora', Mr. Morus."
"William Jones. Pwy fasa'n meddwl, yntê!"
"Ia, wir, hogan," meddai Leusa, gan geisio ymddangos yn wybodus.
"Chwerthin ddaru Huw 'cw pan ddeudodd Bob Gruffydd wrtho fo yn y chwaral ddoe. William Jones o bawb, yntê!"
Beth a ddigwyddasai, tybed? A oedd William wedi dianc o'r Sowth i America hefo gwraig rhywun?
"Mae'n rhaid 'i fod o'n un garw." Ysgydwodd Susan ei phen yn ddoeth. "Ydi, mae'n rhaid."
"Tasa' Now John Ifans wedi cal 'i ddewis mi fasa' rhywun yn dallt y peth, medda' Huw 'cw."
"Pam Now John?"
"Mi fydda' Now yn canu 'i hochor hi yn y Bwl bob tro y bydda' fo wedi meddwi. Ond 'chlywodd neb ddim gair am hwnnw byth ar ôl iddo fo fynd i'r Sowth, hogan. 'Wn i ddim sut mae Maggie Jane yn medru cal bwyd i'r plant heb sôn am bres i fynd i'r pictiwrs."
"Be' oedd Bob Gruffydd yn ddeud?"
"Chwartar wedi wyth nos Wenar. Stesion Caerdydd."
Am drên yn gadael gorsaf Caerdydd y meddyliodd Leusa.
"Diar, da, yntê!" meddai Susan. "Mi fydd 'na filoedd yn gwrando arno fo."
Daeth i Leusa ddarlun o'r tyrfaoedd yn rhuthro i orsaf Caerdydd i ffarwelio â William Jones, ac yntau cyn ymadael yn rhoi ei ben allan o gerbyd y trên i ganu'r Hen Ganfed iddynt.
"Miloedd ar filoedd, yn ôl Huw 'cw. Ac arian mawr." Beth a wnaethai William? Ennill medal arall? Yn y gwaith glo, efallai. Cafodd Leusa gip o'i gŵr yn rhuthro drwy fflamau enbyd mewn pwll glo ac yn dychwelyd drwy'r tân, a'i wallt a'i aeliau wedi'u llosgi ymaith, â choliar ar bob