Tudalen:William-Jones.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cyma', debyg iawn."

Cafodd "Y Chwarelwr" o leiaf ddau wrandawr beirniadol, ac ar ei diwedd ni welai Ifan Siwrin na Leusa ystyr o gwbl yn y rhaglen. Ond am resymau gwahanol. Yr oedd yn amlwg i Ifan na wyddai trefnydd y rhaglen ddim byd am chwarel na chwarelwyr ; yr oedd hi'r un mor glir i Leusa nad oedd angen sôn am "sglodion" a "crawiau" a "miniar" a phethau tebyg y gwyddai'r byd i gyd amdanynt. I beth yr oedd eisiau creu darlun o rywbeth a ddigwyddai yn eu hymyl bob dydd ? Hen lol wirion, yn enwedig y disgrifiad o'r ddynes 'na yn y tŷ yn gosod y bwrdd i'r swper-chwarel. Hi â'i lobscows a'i thân mawr i sychu dillad ei gŵr!

Nid oeddynt yn gytûn eu barn ar berfformiad William Jones. "Yn hollol fel fo'i hun," oedd sylw Leusa, ond daliai Ifan nad oedd ei frawd yng nghyfraith fel pe’n trio o gwbl. Os actio, actio amdani, yntê? Gwrthodasai ei gyfle, yn ar- bennig wrth lefaru geiriau fel "taran" a "rhwygo" ac "ara' deg." Ni ddeallai ef, mwy na Thwm Edwards, sut y dewiswyd William Jones i'r gwaith.

Daeth llais y dyn bach yn weddol aml drwy'r set-radio yn ystod y misoedd wedyn, ond mingamu bob tro a wnâi Leusa a'i brawd. Gwyddai Ifan Siwrin y gallai ef wneud yn ganmil gwell, a thaflai lawer "Hy!" anfwyn tua'r teclyn yng nghongl y gegin. Teimlai Leusa y dylai perchen y llais yrru dwybunt yn lle punt yr wythnos iddi, gan ei fod, bellach, yn ennill arian mawr." Yr oedd ganddo fo wyneb i ddarlledu a'i wraig druan bron â llwgu.

Yna, yng nghanol Medi, daeth Mr. Green i'r ardal. Goruchwyliwr newydd y sinema oedd Mr. Green. Sais bychan, tew, a chymaint o gnawd o amgylch ei wddf fel y taerech fod ganddo dair gên. Yr oedd y gadwyn aur ar ei wasgod hefyd ryw droedfedd yn nes atoch nag y dylai fod, a chredodd pawb yn Llan-y-graig mai dyn glwth ac yfwr gwin oedd y dieithryn llon, wynepgoch. Dyna oedd barn Mrs. Preis y Bwl wrth ddangos ei ystafell-wely iddo y noson y cyrhaeddodd y pentref; brysiodd ymaith i'r gegin i baratoi gwledd o datws a chig a fyddai'n gymwys i wr a chanddo dair gên a gwasgod mor eofn. A phan ddaeth Mr. Green i lawr i'r ystafell-fwyta, cludodd hi a Meri Elin, y forwyn, lanastr o bryd i'r bwrdd o'i flaen. Yr oedd yn wir ddrwg ganddo, a dylasai fod wedi sôn am y peth cyn mynd i fyny'r