Tudalen:William-Jones.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lygaid onest, efallai—a atgofiai Leusa am ei gŵr. Curodd ei dwylo mewn cymeradwyaeth uchel pan drawodd y llanc, yn y pymthegfed tri munud, glamp o ddyn du dros y rhaffau i freichiau gwyr y seddau blaen. A chynhyrfwyd hi drwyddi pan welodd gariad y bocsiwr yn dringo i'r llwyfan—ymladd ato ac yn taflu ei breichiau am ei wddf a'i gusanu'n wyllt. Efallai, meddai wrthi ei hun ar y ffordd adref o'r sinema, y deuai telegram yn ei galw hithau i Gaerdydd i fod wrth ymyl ei gŵr yn awr ei fuddugoliaeth. Cafodd Leusa Jones freuddwydion melys y noson honno.

Hefo'r llefrith yn y bore y daeth y gwirionedd. "Peint, Mrs. Jones?" gofynnodd Wmffra Williams. "Na, chwart hiddiw, Wmffra, imi gal gwneud pwdin-reis i Ifan Davies 'ma. Mae o'n un garw am bwdin—reis." "Chwartar wedi wyth nos Wenar, yntê, Mrs. Jones?" A oedd hwn eto yn dechrau ar yr un giamocs â'r Susan Lewis 'na?

"Un garw ydi o, yntê, Mrs. Jones!"

Oedd, yr oedd hi'n amlwg ei fod.

"Be' ydach chi wedi'i glywad, Wmffra?"

"Dim ond 'i fod o ar y weiarles nos Wenar. Rhaglan am y chwaral, yntê?"

Pan ddaeth Ifan Davies i lawr i frecwast, yr oedd Leusa'n ddrwg iawn ei hwyl.

"Y Susan Lewis 'na," meddai. "Dydi hi ddim hannar call. Hi â'i medal a'i chanu o flaen y Brenin a'i harian mawr a'i risepsion a'i bocsio! 'Does 'na ddim byd yn y peth. Y cwbwl sy'n digwydd ydi fod William yn deud rhywbeth am y chwaral ar y weiarles nos Wenar. Be' oedd y ffŵl isio sôn am ganu a Jack Peterson a phetha' felly? Mi ro'i focsio iddi hi!"

Edrychodd ei brawd yn syn arni, gan agor ei geg a syllu tros ei sbectol.

"Yr argian fawr, Leusa!" meddai.

"Be'?"

"Dwyt ti ddim am ddeud wrtha' i dy fod ti wedi talu'r un sylw i ryw glebran gwirion fel 'na? 'Roedd y peth mor glir â'r haul. Stesion Caerdydd."

"Oedd, o ran hynny, 'tasa' hi wedi deud 'i stori'n iawn yn lle rhwdlan fel y gwnaeth hi... 'Gymri di facwn ac wy bora 'ma, Ifan?"