Tudalen:William-Jones.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddigwyddai i William Jones yn rhywle. Beth oedd hi heddiw? Dydd Iau. Oedd, yr oedd amser i 'siwrio'i frawd yng nghyfraith cyn nos Wener. Ond os oedd William Jones yn gwneud rhyw gastiau peryglus tua'r Sowth 'na, colled i'r Cwmni fyddai ei 'siwrio.

"Pwy ddechreuodd y straeon gwirion 'ma?" gofynnodd wedi gorffen ei de.

"Bob Gruffydd yn y chwaral."

"O. Mi a'i i'r Seiat heno i gal gair hefo fo. 'Fûm i ddim yno ers tro byd. I'r hen bictiwrs 'na yr wyt ti'n mynd, y mae'n debyg?"

"Dydw' i ddim yn gofyn i ti dalu drosta' i, Ifan."

Nid awn gydag Ifan Siwrin i'r Seiat; ailadrodd darn o'r drydedd bennod fyddai hynny. Digon yw dywedyd iddo godi ar ei draed ac edrych dros ei sbectol wrth sôn am ansicrwydd bywyd a'r fraint o gael cymdeithas gyda'r saint. Siaradodd yr hen Wmffra Roberts hefyd, yn fywiog ac anniddorol, am dros ugain munud heb boeni ei ben am destun na phennau i'w bregeth. Trawodd Ifan Davies ar Fob Gruffydd ar y ffordd allan.

"Chwartar wedi wyth nos Wenar, yntê?" meddai, gan geisio swnio'n ddifater.

"Ia... 'Rhoswch, Wmffra Roberts; mi ddo'i hefo chi." "Be' fydd o'n wneud yno, Robat Gruffydd?"

"Fel 'sgotwr y deudodd o, er na wn i ddim be' wyr William am 'sgota. Cymryd arno y bydd o, wrth gwrs." A rhuthrodd Bob Gruffydd drwy glwyd y capel ar ôl yr hen Wmffra Roberts.

Gan ei fod yn hoff o swper cynnar, paratôdd Ifan Davies bryd o fwyd ei hun yn y tŷ, ac yna cliriodd gongl y bwrdd i gael trefn ar ei lyfrau yswiriant. Ond ni châi hwyl ar ei waith. Canu, trên chwarter wedi wyth o Gaerdydd, miloedd o bobl, arian mawr, bocsio, pysgota—nid oedd synnwyr mewn dim a glywsai. Arian mawr, gorsaf Caerdydd, bocsio, miloedd o bobl, canu o flaen y Brenin, pysgota—gwylltiodd Ifan Siwrin ac aeth i'w wely, gan adael y llestri fel yr oeddynt ar y bwrdd. Yn rhyfedd iawn, stori am focsiwr gostyngedig a di-sôn a ddringodd i'r uchelfannau a oedd ar len y sinema, ac aeth rhyw gyffro mawr drwy enaid Leusa Jones. Bachgen tal a chyhyrog oedd y gwron, nid dyn bychan tros ei hanner cant â'i gorun yn foel, ond yr oedd rhywbeth yn ei wyneb—yn ei