Tudalen:William-Jones.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae gin ti weiarles, ond oes, Leusa?"

"Oes. Ac 'rydw i'n cal Luxembourg yn reit glir. Ar hwnnw y bydda' i'n gwrando."

"I'r drws nesa' 'ma y bydda' i'n mynd, ond yn y Bwl y bydd Huw, mi elli fentro. Mae o a Huws Dentist a'r Twm Bocsar 'na a'r lleill wrth 'u bodd bob tro y bydd 'na focsio ne ras ne' ffwtbol ar yr hen weiarles 'na, er mwyn iddyn' nhw gal esgus dros fynd i'r Bwl i wrando arno fo. Yno y byddan nhw nos Wenar, mi gei di weld, a mi ddon' adra i gyd wedi yfad fel pysgod a'r Twm Bocsar 'na wedi'i dal hi. 'Wyt ti'n cofio pan oedd Jack Peterson wrthi y tro dwytha' 'ma? Mi ath Twm Bocsar yn chwil ulw, wsti, a mi driodd ddangos i Now Dic, gŵr Enid May, be' oedd knock—out. Mi fuo Now Dic druan yn 'i wely am wsnos... 'Ydi o'n sôn am ddwad adra?"

"Nac ydi. Ond mae o'n gyrru pres imi yn reglar bob wsnos."

"Mae'n rhaid 'i fod o'n licio'i le tua'r Sowth 'na. Gobeithio na fyddan' nhw ddim yn betio y tro yma. Mi gollodd Huw goron pan oedd Jack Peterson wrthi. Ond 'wn i ddim ar be' y betian' nhw hefo William Jones. Colli y bydd Huw 'ma bob gafal, beth bynnag. 'Fyddi di'n trio'r Football Pools 'na, Leusa?"

"Bydda' weithia', wsti."

"Mae o'n sgut amdanyn nhw ac yn deud 'i fod o am riteirio a phrynu tafarn fach wrth lan y môr yn Sir Fôn pan enillith o. Mi fasa'r cradur yn yfad y proffid i gyd cyn pen blwyddyn. Be' mae o'n wneud yn y Sowth 'na?"

"Yn y pwll glo. Dreifio'r caets i fyny ac i lawr."

Caets? Mewn sioe yr oedd peth felly, ond cuddiodd Susan ei hanwybodaeth tu ôl i'r gair "O?"

Treuliodd Leusa ryw awr yn nhŷ Susan Lewis, ond nid oedd fymryn callach pan droes tuag adref. Dychwelodd ei brawd rhwng pedwar a phump â'r newydd mai un garw oedd William Jones. Stori Leusa erbyn hyn oedd i'w gŵr droi'n focsiwr tua'r De, a'i fod ef a Jack Peterson yn paratoi'n ddygn ar gyfer yr ornest nos Wener. Tagodd Ifan Davies uwch ei de wrth glywed y fath lol, ac ni fedrai hyd yn oed weddill yr afalau gwlanog ei gadw rhag pyliau hir o chwerthin. Ac eto, teimlai braidd yn anniddig o gofio sylwadau Now Portar am wrandawyr eiddgar y Bwl. Yr oedd rhyw wir mewn rhywbeth