Tudalen:William-Jones.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Chwartar wedi wyth nos Wenar, yntê?" meddai, wedi iddo ef ac Ifan Davies gyfarch ei gilydd.

"Ia. Sut y gwyddech chi?"

"Sôn am y peth yn y gweithdy 'ma yr oeddan' nhw neithiwr. 'Oes gynnoch chi weiarles?"

"Oes, mae gan Leusa 'cw un."

"Wyddwn i ddim y medra' fo wneud petha' fel 'na, wchi."

Gwelodd Ifan Siwrin gyfle i ddod o hyd i'r gwirionedd.

"Gwneud be'?" gofynnodd.

"Gwneud beth bynnag y mae o yn 'i wneud, ynte?"

"O, mae o'n dipyn o hen bry', William Pritchard."

"Ydi, mae'n rhaid."

"Ydi, pry' garw. Be' oeddan' nhw'n ddeud yma neithiwr?"

"O, 'doedd neb yn gwbod y manylion, wchi. Be' fydd 'i ran o ynddi hi, Ifan Davies?"

Yr oedd hwn yn gwestiwn go anodd. "Wn i ddim, wir," meddai, ac yna cofiodd ei fod ar frys ac yr hoffai orffen yn Llan Rhyd cyn iddi ddechrau glawio. Ac wedi i William Pritchard glirio'i ddyled a dyfynnu unwaith eto ei linell gynganeddol, "Wil Saer yn talu 'siwrin," aeth Ifan Davies ymaith a'r stori am ei frawd yng nghyfraith mor niwlog ag erioed yn ei feddwl. Pam na fuasai ffyliaid fel Now Portar a Wil Saer yn dweud yr hanes yn iawn yn lle troi yn eu hunfan fel geifr wrth gadwyn?

Yn y tŷ yn Llan-y-graig, aethai chwilfrydedd Leusa'n drech na hi. Darganfu gôt i William Jones yn y llofft, ac aeth â hi i lawr i dŷ Susan Lewis.

"Wrthi'n clirio tipyn ar y llofftydd acw," meddai, "a medd—wl y gwnâi'r gôt 'ma i Huw yn y chwaral."

"Yn y chwaral!" Daliodd Susan y gôt i fyny i'w hedmygu.

"Mi wnaiff iddo fo gyda'r nos—os nad ydi William Jones yn debyg o fod 'i hisio hi."

"Nac ydi—yn enwedig 'rŵan, a fynta'n mynd yn ddyn mor bwysig."

"Gobeithio y bydd y reception yn o dda, yntê?" meddai Susan.

Nodiodd Leusa, gan geisio ymddangos yn ddidaro, ond dug y gair Saesneg ofn i'w chalon. Ai mynd i briodi yr oedd ei gŵr? Priodi rhyw ddynes gyfoethog, efallai. Ia, dyna sut y câi arian mawr, ac yr oedd ef a'i wraig am ddal trên yng ngorsaf Caerdydd am chwarter wedi wyth nos Wener.