"Be' sy 'rwan?"
"Falla' y bydd o'n cal miloedd o bunna', a dyma fi yn fan 'ma yn byw fel llygodan eglwys."
"Gwaith glo ar dân, medal, arian mawr, miloedd o bobol yn stesion Caerdydd, canu o flaen y Brenin ..."
"A'r Frenhinas."
"Y nefoedd fawr! Estyn dipyn o'r peaches 'na imi. Yr unig beth sy gin i i'w ddeud ydi 'i bod hi'n hen bryd i rywun gloi'r Susan Lewis 'na yn y Seilam."
"Tasa' fo'n gyrru dim ond rhyw ganpunt imi, yntê!". Wedi iddo gladdu hanner dwsin o'r afalau gwlanog, brysiodd Ifan Siwrin i'r cwt i nôl ei feic a gwthiodd ef yn ffyrnig drwy'r lôn gefn, gan ddadlau y dylid crogi'r merched a gyfarfyddai bob bore yn Siop Ucha'. Pan gyrhaeddodd y ffordd, âi Now Portar heibio, yn dychwelyd i'r orsaf ar ôl cinio.
"Tipyn o hen bry' ydi o, Ifan Davies."
"Pwy?"
"William Jones. Pry' garw."
"Ia, fachgan."
"Chwartar wedi wyth nos Wenar, yntê, o stesion Caerdydd?"
"Ia." Yr oedd yn rhaid bod rhyw wir yn y stori. "Sut y clywist ti, Now?"
"Yn y Bwl nithiwr. Diawcs, mi fydd 'na le yno nos Fawrth! 'Ydach chi'n cofio'r ffeit rhwng Jack Peterson a Len Harvey? 'Roedd yr hogia' i gyd yn y Bwl, a mi fedrach glywad pin yn syrthio, Ifan Davies—Twm Bocsar 'di deud y basa' fo'n llorio pwy bynnag fasa'n agor 'i geg i ddim ond yfad 'i gwrw. Mi fydd hi'r un fath nos Wenar pan fydd William Jones wrthi... 'Ydi hi am fwrw, deudwch?"
Gŵr pwyllog a phwysig oedd Ifan Siwrin, a synnodd llawer un wrth ei weld yn chwyrnellu i lawr heibio i'r orsaf ac ymlaen i gyfeiriad Llan Rhyd. Beth a ddaethai trosto? Pan gyrhaeddodd Lan Rhyd, aeth yn syth i dŷ William Pritchard, un o'i gwsmeriaid. Saer oedd William, a chasglai amryw i'w weithdy bob gyda'r nos i roi'r byd yn ei le. Dyn swrth a thawel ydoedd, â rhyw olwg breuddwydiol yn ei lygaid bob amser. Câi enw o fod yn dipyn o lenor a bardd, ac adroddai pobl linellau fel "Ambarél ym bur hwylus" ar ei ôl i brofi hynny.