Mr. Green yn ofalus iawn—dim hen bicyls a brôn a phethau felly.
Galwodd y gŵr bach tew i'w gweld yn y prynhawn. Chwil—iai am lety, meddai, a daethai i'w feddwl y gallai hi, yn arbennig gan iddi gael y profiad o ofalu am ei mam, ei dderbyn i'w thŷ. Ychydig oedd ei anghenion, talai arian da am le cysurus, a byddai'n falch o gynnig sedd rad ac am ddim iddi yn y sinema bob nos Lun a nos Iau. Curodd Leusa wy mewn glasiaid o lefrith iddo.
Gwn, ddarllenydd hynaws, dy fod yn hiraethu am droi'n ôl i gwmni William Jones, ac felly nid oedwn i sôn am ystumog Mr. Green a phryder Leusa yn ei chylch. Gan mai bwyd llwy, gan mwyaf, a ddeisyfai'r dieithryn, ni phoenid ef yn bersonol gan ddiffygion coginio gwraig y tŷ, a chwarae teg iddi hithau, gwnâi ei gorau iddo. Yn wir, cwyrai Ifan Siwrin na châi ef na'i ystumog y ddegfed ran o'r sylw a roddai ei chwaer i'r lletywr o Sais. O, ond yr oedd Mr. Green yn ddyn bach mor neis, er ei fod yn dioddef cymaint ac yn bwyta'r nesaf peth i ddim, a newydd golli ei wraig, a'i ferch wedi dianc i America hefo gŵr rhywun arall, a pherchenogion y sinema yn ei feio ef bob tro y byddai'r lle'n hanner gwag. Torri i grio a wnaeth Leusa pan holodd Mr. Green hi am William Jones. Buasai ei gŵr yn un mwyn a charedig am flynyddoedd, meddai, ond daethai rhywbeth drosto'n sydyn y llynedd, a dechreuodd gicio'r dodrefn o gwmpas y lle a rhegi fel cath a'i tharo nes bod ei dannedd—gosod yn dipiau yn ei cheg. Cododd y lletywr o'i gadair i'w chysuro, a rhoes Leusa ei phen ar esmwythdra'i wasgod i wylo'n ddiatal. A'i fraich am ei hysgwydd, haerodd yntau y buasai'n hanner lladd y bwystfil o ddyn pe câi afael ynddo. Ers faint y ciliasai i'r De? Pymtheng mis! Yr oedd hi'n bryd iddi ei ysgar am gefnu arni gyhyd. Ond nid oedd ganddi fodd i fyw heb y bunt a yrrai ef iddi bob wythnos. Modd? Nid oedd yn rhaid iddi bryderu am hynny. Yr oedd ef, Mr. Green, yn hoff iawn ohoni ac yn ddiolchgar am lawer wy wedi'i guro mewn llefrith, ac os oedd yn ei chalon yr hoffter lleiaf tuag ato ef... Taflodd Leusa ei breichiau am wddf Mr. Green, a galwodd ar Ifan Davies, a drwsiai ei feic yn y cefn, i'r tŷ i derri'r newydd iddo—ac i fod yn dyst o'r cyfamod. Trannoeth, âi Mr. Green i Fanger ynglŷn â rhyw ffilmiau, a chynigiodd Leusa fynd gydag ef. Ysgwyd ei ben a wnaeth