Tudalen:William-Jones.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyfreithiwr yr ymgynghorodd y ddau ag ef. Pymtheng mis? Yr oedd yn rhaid, yn ôl y ddeddf, i William Jones fod i ffwrdd am dair blynedd cyn y gellid ei gyfrif yn enciliwr. Ond gallai Mrs. Jones ei gyhuddo o greulondeb, yn enwedig ar ôl y llanastr a wnaethai ar y dodrefn, ac ar ei dannedd—gosod. Na, meddai Leusa'n frvsiog, nid oedd ganddi dystion, a byddai ef yn sicr o wadu'r cwbl, gan daeru celwyddau nes bod ei wyneb yn las. A oedd ganddo gariadon tua'r De? Oedd, amryw, atebodd Leusa; yr oedd o'n un garw am y merched. O, yr oedd y broblem yn un bawdd ynteu. Byddai William Jones, yr oedd yn fwy na thebyg, yn falch o ymryddhau o dalu'r bunt wythnosol, a dim ond iddo dreulio nos mewn rhyw westy gydag un o'i ferched ... Na, ni lwyddai'r cynllun hwnnw ym marn Leusa; yr oedd ei gŵr yn ormod o hen lwynog i'w glymu ei hun wrth un ferch arbennig.

Hm. Crafodd y cyfreithiwr ei ên. Ofnai y byddai'n rhaid i amynedd y ddau gael perffaith waith o hynny hyd ddiwedd y tair blynedd. Yn y cyfamser, câi Leusa ei phunt yr wythnos; byddai'n rhaid i'r dihiryn dalu honno. Oedd, yr oedd y ddeddf yn ffolineb, efallai, ond ni wyddai ef am ffordd i'w hosgoi. Rhywfodd neu'i gilydd, daeth y stori i glustiau Susan Lewis, a chludodd ei gwr hi—y stori, nid ei wraig—i'r chwarel. Dic Trombôn a'i hadroddodd—gydag addurniadau barddonol, wrth gwrs—wrth Bob Gruffydd, ac ysgrifennodd hwnnw ar unwaith at ei hen bartner.

"Ia, wel," oedd unig sylw William Jones.