Tudalen:William-Jones.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phan fu farw ei fam rai misoedd wedyn gwerthodd y dodrefn, ac i ffwrdd ag ef i America i wneud ei ffortiwn. Chwarddodd ei ffordd am ryw dair blynedd drwy Scranton a Williamsport a Phittsburg heb ennill ond digon o arian i fyw ac i dalu costau'r daith yn ei ôl, ac yna cafodd lety tros y ffordd i Ann Jones a'i phlant, William a Meri. Er bod Meri'n hộn nag ef o ryw ddwy flynedd, syrthiodd mewn cariad â hi, ac âi i'r capel yn selog, hyd yn oed i'r Cyfarfod Gweddi ac i'r Seiat, i fod yn agos iddi. Ffordd Crad o weddïo, y mae arnaf ofn, oedd gwylio Meri drwy'i fysedd, a gwrandawr esgeulus ydoedd ar bregethau Mr. Lloyd a "phrofiadau” Isaac Davies ac eraill. Rhybuddiai Ann Jones ei merch yn erbyn mab Wil Sowldiwr, ond buan y sylweddolodd Meri mai un syml a didwyll a hoffus iawn oedd y gŵr a gyfrifid yn rhyferthwy o ddyn. A chafodd Crad droedigaeth. Y mae'n wir nad âi ar gyfyl y capel, unwaith yr enillodd ei serch hi, ond rhoes y gorau i yfed, ac nid ymladdai-ddim heb achos, beth bynnag, a thalai'n onest ac i'r diwrnod am hawl i bysgota. Yr oedd ei esgeulus- tod o foddion gras yn asgwrn cynnen rhyngddynt, a beiai Meri ei chariad am wastraffu cymaint o arian ac amser yn chwarae billiards, ond ni châi ei mam na'i brawd ddweud gair yn ei erbyn. Nid bod un o'r ddau yn hoff o ddilorni Crad ; yn wir, gofalai Ann Jones fel mam am y lletywr tros y ffordd, ac yr oedd William Jones wrth ei fodd yn ei ddilyn-ar y slei-i gwt y billiards neu hyd fin Afon Gam.

Ac yna, ryw flwyddyn cyn y Rhyfel Mawr, ffurfiwyd Llan-y-graig United.

Gwenai Crad wrth gofio am yr United, a chofiai amdano bron bob dydd wrth wrando, o'i wely, ar leisiau'r bechgyn yn chwarae Rygbi. Yr oeddynt hwy wrthi bron bob prynhawn, gan eu bod yn ddi-waith ac wedi llwyddo i gael benthyg cae am ddim, a chludai'r awel eu lleisiau i fyny i Nelson Street a thrwy'r ffenestr agored i glustiau'r dyn claf. Ond twt, Socer oedd y gêm, yn arbennig â Now Bwl a Thwm Bocsar a Huw Mwnci a'r lleill yn ei chwarae. Chwarddai Crad nes bod y gwely oddi tano'n ysgwyd wrth gofio llawer ysgarmes gynt a fu. Now Bwl a gychwynnodd y mudiad yn Llan-y-graig, a dadleuai rhai mai hiraeth ei dad am gael tipyn o rent am y cae mawr, a oedd yn perthyn i'r dafarn, a oedd tu ôl i'w frwdfrydedd. Ond pan ofynnai mynychwyr y Bwl i'r beirniaid hynny a wyddent hwy am ryw gae arall mwy cyfleus,