llygoden, i ofalu am enaid ei bachgen. Âi hi ei bun ag ef i'r capel, i'r Ysgol Sul ac i'r Cyfarfod Gweddi ac i'r Seiat ac i'r Band of Hope, a'i roi yno yng ngofal Wmffra Roberts neu Huws Roberts neu rywun. Ond nid oedd Caradog fel bechgyn eraill. I ddechrau, yr oedd rhyw wendid ar ei gyfansoddiad bob gafael yn y capel; gwingai fel cnonyn ar ei sedd, gan ddal ei law i fyny i erfyn am ganiatâd i fynd allan am funud. Pwy a allai wrthod ei gais? Câi'r hawl i dalu ymweliad brysiog â chefn y capel, ond gan na ddychwelai i'w sedd, ymgynghorodd y brodyr â'i gilydd a chaledu eu calonnau i'w erbyn. Bu'n rhaid i fab Wil Sowldiwr feddwl am gynlluniau eraill. Ef, yn y Band of Hope, fyddai'r cyntaf o'r ymgeiswyr i fynd allan i'r festri ar gyfer Cystadleuaeth Speling Bî, ond gan fod ffenestr yn y festri, ni welsid mwy ohono ef y noson honno. Llwyddai weithiau hefyd, yn ystod un o weddïau uchel Isaac Davies, i gropian o'i sedd ac o'r capel, a phan fethai'r holl ddyfeisiadau hyn, yr oedd ganddo eraill. Gwelodd Wmffra Roberts ef un noson, er enghraifft, yn rhwymo'i law waedlyd â'i hances, ac yr oedd hi'n amlwg fod yr hogyn truan mewn poen dirfawr. Gyrrodd ef adref ar unwaith, ond ar ei ffordd allan o'r capel trawodd y cena' bach y botel o inc coch a fenthyciodd o'r ysgol ym mhoced côt fawr Isaac Davies.
Hawdd fyddai manylu ar droseddau hogyn Wil Sowidiwr. Yr oedd yn rhegwr huawdl cyn bod yn wyth oed, yn smocio cyn bod yn naw, yn dwyn rhywbeth a phopeth cyn bod yn ddeg; yn wir, ni châi'r angel a groniclai ei hanes funud o hamdden i sylwi ar neb arall. Er hynny, tyfodd yn llanc cydnerth ac yn chwarelwr medrus, yn gwffiwr llawn gwell na'i dad, ac yn bysgodwr (heb drwydded) llwyddiannus iawn. Dim ond ar nos Sadwrn yr âi i'r Bwl, ond ar y nosweithiau hynny torrai ar undonedd bywyd Llan-y-graig drwy fod yn rhyfelgar i'r eithaf. Ac unwaith, rhythodd i mewn i un llygad Twm Bocsar a'i wahodd i gefn y dafarn. Pa un ai straight left ynteu right hook a ddefnyddiodd Twm nid oedd un o'r tystion a wyddai, gan gyflymed yr ergyd, ond daeth Crad ato'i hun i ganfod Owens, yr hen blisman wynepgoch a oedd yn Llan-y-graig y pryd hwnnw, yn gwyro uwch ei ben, ac yn ei gynghori i fynd adref yn dawel. Yn lle ufuddhau troes yr ymladdwr ar y plisman, ac enillodd fis o garchar am ei wrhydri. Dychwelodd yn anniddig i'r Llan ac i'r chwarel,