ac ar oernad rhyw gi a udai yn y pellter. Troes ymaith, yn ddig wrtho'i hun am adael cynhesrwydd ei wely plu, ond cyn iddo gyrraedd drws yr ystafell fawr, safodd yn syfrdan wrth glywed y gloch yn toncio'n lleddf ac araf uwchben. "C... come out of there," meddai ei lais, er mai prin yr adwaenai ef, "and I'll g... give you the b... best h... hiding you've ever h... had." Ond ni neidiodd neb at y cynnig. Tawelwch hir eto, er bod rhyw ysfa disian yn gafael yn Now Jên Ifans. Pwy bynnag, a chwaraeai'r tric hwn, meddai'r ysgolfeistr wrtho'i hun, yr oeddynt yn peryglu ei fywyd drwy ei alw o'i wely i'r fath oerfel. A oedd rhywbeth yn symud fan draw yng nghong! yr ystafell? Oedd, a rhewodd asgwrn cefn y Sgwl wrth iddo wylio'r ysbryd yn symud o'r cysgod i olau gwan y lloer. Daeth tair tonc ddwys ar y gloch, pob un mewn ufudd—dod i amnaid gan fraich araf ac urddasol yr ysbryd. Dihangodd Huws Bach am ei fywyd.
Pan gyrhaeddodd eraill, nid oedd na thonc cloch na golwg ar ysbryd yn Standard V, ac ni ddeallai'r bobl pam yr edrychai'r Sgŵl mor llwyd ac ofnus. Dic Dew, ei gefnder, a roes yr eglurhad gorau iddynt, gan awgrymu'n gynnil na wnaeth dysg les i neb erioed. Ond y gloch? O, rhyw dylluan neu ystlum go fentrus yn ceisio dianc yn ôl i'r nos. Yr oedd ef yn cofio unwaith... Ond ni wrandawodd neb ar stori Dic, gan wybod ohonynt fod ei ddychymyg bron gymaint â'i syched.
Castiau fel y rhain, a thipyn o fri fel cwffiwr, a chymorth arwrol bob Hydref i'r Person i gadw'i afalau—cadw oedd deunydd hynny o ramant a oleuai ieuenctid Crad. Ystorm o ddyn oedd ei dad, selog yn y Bwl, anghyson yn y chwarel, herfeiddiol a llon ym mhopeth a ddywedai ac a wnâi. Enillodd enwogrwydd lleol un nos Sadwrn drwy daflu gwerth chweugain o geiniogau o ddrws y Bwl i blant y pentref; dewisodd y ffordd honno, yn un o amryw, i ddathlu marwolaeth rhyw ewythr darbodus a adawodd dri chant o bunnau iddo. Yn ffodus, dim ond gwerth rhyw ganpunt a yfodd cyn mynd "at y sowidiwrs," a phur anaml y gwelai'r ardal ef yn ystod y ddwy flynedd cyn iddo farw, mor herfeiddiol a llon ag y buasai fyw, rywle yn Neau'r Affrig. Yfodd ei gyfeillion yn y Bwl beint dwys ar ôl Wil Sowldiwr, gan gofio'r tro hwnnw y lloriodd y Dyn Cryf yn y syrcas, ac yna anghofiodd Llan-y-graig amdano.
Ymroes Kate Williams, y weddw fach dawel ac ofnus fel