ymddangosiad ef. Gobeithiai'n ddwys nad oedd yr afiechyd yn amharu ar feddwl yr hen Grad.
Coblyn bach drwg oedd Crad yn yr ysgol, a chofiai â gwên y castiau a chwaraeai yno. Diawch, y tun hwnnw a guddiodd unwaith yn nrôr Huws Bach y Sgŵl! Yr oedd ynddo filodfa ar raddfa fechan—tair gwenynen, dwy lygoden farw, gwladfa o forgrug, pedwar llyffant, amryw o benbyliaid, dwsin o bryfed genwair, ac, yn anrhegion mwy parchus, ddau 'nionyn bach. Ar wahân i dri a bigwyd i farwolaeth gan y gwenyn, dihangodd y morgrug drwy dwll bychan yng ngwaelod y tun, gan gredu bod esmwythach byd a phorfa frasach yn nrôr y Sgûl. Ond chwarae teg i Grad, sut y gwyddai ef y daliai Huws y tun ar wyr wrth ei agor?
A dyna'r tro hwnnw y rhoes gymorth i Ned Sais, glanhawr yr ysgol, i drwsio'r gloch. Llithrasai'r rhaff oddi ar yr olwyn, a chan fod y bachgen yn byw y drws nesaf i Edward Williams, a ofalai am lanhau'r ysgol, i Grad y gofynnodd y Sgŵl am atgoffa'i gymydog am y peth. Aeth y cena' bach ar unwaith o amgylch tai ei gyfeillion, a llwyddodd i gasglu hanner dwsin o wyau. Bu Ned Sais mor ddiofal â gadael i'w gynorthwywr ddringo'r ysgol i roi'r rhaff yn ôl yn ei lle, a throes ef ymaith i fynd ymlaen a'i waith mewn ystafell arall. Hongiodd Crad y cwd papur tyllog, a ddaliai'r wyau, â llinyn wrth dafod y gloch, ac yna rhoes gymorth parod i Ned i orffen ei waith cyn i'r Bwl agor. Gan y mynnai'r Sgŵl ei hun ddechrau canu'r gloch gyntaf bob dydd, bu'n rhaid iddo frysio adref i ymolchi a newid ei ddillad fore trannoeth.
Ond yr hwyl a gafodd ef a Robin Jên Ifans un canol nos a ddôi gliriaf i feddwl Crad. Llwyddodd y ddau i sleifio o'u tai ac i ddringo i mewn i'r ysgol drwy ffenestr Standard I. Clymodd Robin Jên (rhywfodd neu'i gilydd, ni welai neb ddim byd yn ddigrif mewn rhoi enw ei fam iddo) linyn du wrth raff y gloch, a gorweddodd o dan un o'r seddau gerllaw. Wedi iddo'i wisgo'i hun yn y gynfas wen a ddygasai o'i wely, tynnodd Crad yn ffyrnig wrth y gloch, gan ddeffro'r holl ardal. Trawodd y Sgwl ddillad yn frysiog amdano a rhuthrodd i'r ysgol mewn braw. Ond yn Standard V, lle'r oedd y gloch, nid oedd na sŵn na symud yn y byd. Yr oedd hi'n noson oer yn y gaeaf, a chan na chawsai amser i wisgo'n briodol, crynai drwyddo yno yn y tawelwch rhewllyd, gan wrando ar ryw dylluan, â'i thraed yn oer, yn cwynfan yn y coed gerllaw,