Tudalen:William-Jones.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Honour bright?"

"Honour bright."

“Hm. Rhaid i fi byrnu mints, 'ta'.”

Edmygai William Jones wroldeb Crad, y dyn claf a guddiai anobaith mewn atgofion llon. Treuliai oriau gydag ef i sôn am chwarae billiards, am bysgota yn Afon Gam a rhoi'r cipar tros ei ben yn y Pwll Dwfn, am rai o gymeriadau digrif y chwarel, am y gwaith a gâi Meri i dynnu ei chariad, ac wedyn ei gŵr, i'r capel. Ond edmygai'r chwarelwr ddewrder tawel ei chwaer yn fwy byth, a gwyddai fod rhyw angel, ag ysgrifell o aur yn ei law, yn croniclo'i hanes.

Mynd ymlaen â'i gwaith yn ddiwyd a llawen a wnâi Meri, wrth gwrs, heb wybod dim am y syniadau barddonol hyn ym meddwl ei brawd. Ac yr oedd digon i'w wneud; yn wir, gofynnai porthi ystumog ddiwaelod Wili John am ddyfeisio a chynllunio dibaid, ac ni ddyfalai bachgen ar fin ei un ar bymtheg o ba le y deuai'r bwyd. Chwarae teg i Eleri, cynorthwyai hi ei mam yn selog bob gyda'r nos. Yr oedd hi erbyn hyn yn athrawes yn Ysgol y Babanod ac wrth ei bodd yno, ond pan gyrhaeddai adref a chael ei the, trawai farclod amdani i helpu ei mam. Dadleuai Richard Emlyn, wrth gwrs, mai lle William Jones oedd gwisgo'r barclod—i ryddhau Eleri ar gyfer diddordebau pwysicach.

Treuliasai'r chwarelwr dros flwyddyn ym Mryn Glo, a dysgasai lawer am fywyd y cwm a fu unwaith mor brysur a llon. Diar, mor ddifeddwl oedd ef yn Llan-y-graig wrth ddarllen ambell lythyr oddi wrth Meri. Soniai hi fod Nymbar Wan wedi cau a'r pentref bron i gyd yn ddi-waith, ond ni sylweddolodd ef lawn ystyr y newydd. "O, maen nhw'n cael y dole," meddai Bob Gruffydd, ac aent wedyn i sôn am y plyg a dorrent neu am y das wair a aethai ar dân yn yr Hendre. A phan glywsai fod Arfon yn Slough a Wili John yn negesydd i gigydd Bryn Glo—wel, gellid cydymdeimlo â bechgyn å rhyw ysfa am adael yr ysgol ynddynt: felly'n hollol y teimlai William Jones yn Standard V. Codasai Mr. Lloyd yn y capel un nos Sul i ddarllen rhyw gylchlythyr yn gofyn am gynhorthwy i Gymoedd y Dirwasgiad, a darllenodd ei lais cwyn- fanllyd ef yn hollol fel petai'n apêl oddi wrth bwyllgor y te-parti. Tair ceiniog a roes William Jones yn y casgliad hwnnw, gan deimlo bod pobol bowld y Sowth 'na wedi clochdar digon