Tudalen:William-Jones.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y tywydd teg a 'rŵan, pan oedd tipyn o gwmwl ... Clywsai rywun yn y caban-bwyta'n dweud bod miloedd ohonynt yn llifo i Gaerdydd a hyd yn oed i Dwickenham i weld Cymru'n chwarae Rygbi. Os oedd ganddyn nhw arian i betha' felly ... Ni wyddai William Jones fod belt y Shoni a grochlefai ar y cae Rygbi yn un go dynn amdano, a bod mwy o londer yn ei lais nag o obaith yn ei galon. Ni wyddai chwaith fod rhai ohonynt yn cerdded bob cam i Dwickenham, siwrnai o ddau can milltir. Yn awr, wedi rhyw bymtheng mis ymhlith y segurwyr anorfod, rhyfeddai fod eu hysgwyddau mor ysgwâr a'u cyfarchiad mor llawen. Tynnai William Jones ei gap—ei fowler, yn hytrach —i Shoni.

Ac i Feri'n fwy na neb. A'i phlant yn ennill rhyw gymaint, a'i brawd yn cyfrannu'n weddol hael at dreuliau'r tŷ, nid oedd hi'n gorfod cynilo a chynllunio fel y gwnâi cannoedd o wragedd o'i chwmpas, ond casglai ei brawd i fywyd fod yn fain iawn ar y teulu am gyfnod hir. Rhyw dri neu bedwar diwrnod yr wythnos a weithiai Crad am ddwy flynedd cyn i Nymbar Wan gau, a cherddai'n ffyddiog i'r pwll lawer bore i ddim ond i weld y lampman yn ysgwyd ei ben. “Dim gwaith 'eddi'”- ac i ffwrdd ag ef adref yn araf a phrudd, ond cyn gynted ag y deuai i Nelson Street, plastrai wên ar ei wyneb a cheisiai fedd- wl am bethau digrif i'w dweud wrth Feri a'r plant. Yn arbennig wrth Arfon, y bachgen â'r llygaid treiddgar, dwys, a gariai ei lyfrau i'r Ysgol Ganolraddol yn bur ddiysbryd weithiau. Ac â rhyw ddoethineb tawel yn ei gwedd, daliodd Meri, fel miloedd o wragedd eraill drwy'r cwm, i lanhau ei thý a dyfeisio prydau bwyd maethlon ond rhad a thrwsio neu ail-wneud llawer dilledyn. Galwai Shinc yn aml ar y dechrau i ddadlau tros wrthryfel, a neidiai ei eiriau fel gwreichion oddi ar eingion: âi Meri ymlaen â'i gwaith. Weithiau, wrth gwrs, troai dewrder Crad yn surni a'r gŵr di-hîd yn fingam, a dych- rynai hi ar adegau felly. "Dyn a â allan i'w waith ac i'w orchwyl hyd yr hwyr," meddai rhwng ei ddannedd un bore wrth gychwyn allan i wario awr yn Neuadd y Gweithwyr. Yr oedd rhyw olau dieithr yn ei lygaid ac ynni chwyrn yn ei gam, a dilynodd Meri ef o hirbell rhag ofn y bwriadai gyflawni rhyw drosedd ffôl. Ymlaen ag ef drwy'r pentref a heibio i'r orsaf ac ar hyd y ffordd tuag Ynys-y-gog, gan gerdded yn gyflym a phenderfynol. I b'le yr âi? Gwelodd ei gamau'n arafu cyn hir, ac yna safodd i bwyso’n erbyn y clawdd ac i