impression... Thanciw, Mrs. Jones, thanciw... Diwrnod braf?...
Crwydrodd Leusa heibio i'r siop hetiau ar ei ffordd o dŷ'r deintydd, a mawr oedd ei chyffro wrth weld y gair SALE ar draws y ffenestr. Siomedig, er hynny, oedd yr hetiau rhad— rhai gwellt i gyd, a hithau wedi meddwl cael un fach ffelt. Ffelt a ddeuai i'r ffasiwn at ddiwedd yr haf ac at yr hydref, ac yr oedd ganddi hi hetiau gwellt lawer gwell na'r un a welai yn y siop. Yr oedd Mrs. Jones yn ffodus, meddai'r ferch— stoc o hetiau ffelt, y very Iatest, newydd gyrraedd y bore hwnnw. 'Treiodd Leusa un fach frown, ac uchel oedd syndod y ferch wrth syllu ar y gweddnewidiad ynddi. Pwy fuasai'n credu bod y fath beth yn bosibl? Edrychai Mrs. Jones ddeng mlynedd yn iau, ac ni fyddai ei gŵr yn ei hadnabod. Ond teimlai Leusa fod ei gwallt yn hongian yn syth ac yn hir o dan y mymryn het. Oedd, cytunai'r ferch, yr oedd gwallt Mrs. Jones braidd yn syth a synnai hi iddi ei adael felly a phawb arall yn cael perm. Gwallt del hefyd, del iawn : yr oedd hi'n biti garw. Lluniwyd yr hetiau newydd hyn i roi cyfle i ddangos y gwallt, a dyma Mrs. Jones hefo'r gwallt neis 'na heb un wave ynddo. Barbwr? O, yr oedd un yn syth tros y ffordd, y gorau yn y dref, artist wrth ei gwaith. Gyrasai hi ugeiniau o gwsmeriaid yno, a chanmol digymysg a glywsai gan bob un ohonynt. Wrth gwrs, yr oedd perm braidd yn ddrud ac yn cymryd amser, ond fe ddylai merch gael rhyw bleser mewn bywyd, oni ddylai, Mrs. Jones? Prynodd Leusa'r het ac yna croesodd y ffordd i siop y barbwr. Lwcus, meddai wrthi ei hun, iddi ddod â digon o arian hefo hi i'r dref.
Hwyliodd merch fingoch a melynwallt tuag ati yn y siop, a chredai Leusa am foment iddi weld y dduwies o'r blaen mewn rhyw ffilm.
"Isio pyrmio fy ngwallt,please."
"'Oes gynnoch chi appointment?"
"Na, digwydd picio i'r dre wnes i hiddiw a meddwl y liciwn i 'i gael o wedi'i wneud."
"Sorry, ond mae'n rhaid bwcio in advance. Mae perm yn cymryd tair awr, you know."
"Duwcs annwl!"
Canodd y ffôn a throes y ferch i'w ateb, "Hylo! Ia?" meddai'n frysiog a phwysig wrth y teclyn yn ei llaw. Yna,