Tudalen:William-Jones.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi iddi ddeall pwy a oedd y pen arall, aeth yn wenau ac yn foesgrymu i gyd. "O, Mrs. Ffoulkes Lloyd! 'Wnes i ddim recogneisio'ch llais chi o gwbwl. . . . O, popeth yn iawn . . O, piti, piti. I'm so sorry . . .Dydd Sadwrn? Just a minute, Mrs. Ffoulkes Lloyd . . Medrwn. Deg o'r gloch bore Sadwrn? Ten o'clock. Very good, Mrs. Ffoulkes Lloyd, very good. Good-bye. Good-bye, Mrs. Ffoulkes Lloyd."

Dychwelodd y ferch at Leusa gyda'r newydd na theimlai rhyw Mrs. Ffoulkes Lloyd yn dda ac yr hoffai ohirio'i hymweiad tan ddydd Sadwrn. Os dymunai Mrs. Jones gymryd ei lle am ddau o'r gloch gallai Madam edrych ar ei hôl. Yr oedd hi'n ffodus iawn i gael Madam ei hun i ofalu amdani, gan mai dim ond rhai cwsmeriaid arbennig—Mrs. Ffoulkes Lloyd, er enghraifft—a gâi'r fraint honno.

"Faint ydi o ?" gofynnodd Leusa.

"Pob pris. Ond gini ydi'r un gora'."

"Duwcs annwl!"

Addawodd Leusa, er hynny, y dychwelai am ddau o'r gloch, ac aeth ymaith i'r tŷ-bwyta lle cawsai'r cacenni blasus hynny yn y bore i gael tamaid o ginio.

Eisteddodd Leusa am deirawr yn siop Madam yn dioddef arteithiau lawer. Aeth ei phen drwy driniaeth ar ôl triniaeth, pob un yn fwy arswydus na'i ragflaenydd, ac yr oedd dychryn yn ei chalon. Ofnai fynd yn sâl â'i gwallt yn rhwym yn y peiriant mawr uwchben, a chofiai fod dihirod yn America yn cael eu dienyddio fel hyn â thrydan. A'r ofn a gurai ddycnaf yn ei chalon oedd y byddai'r oruchwyliaeth yn fethiant llwyr. Ond dyna, yr oedd hi'n rhy hwyr i edifarhau bellach: a wnaed a wnaed.

Cododd Leusa o'r gadair ychydig cyn pump o'r gloch, a'i hofnau wedi dianc a'i gwallt yn donnau hardd fel haearn sinc. Diar, haeddai gwpanaid ar ôl prynhawn mor anturus a chyffrous. Pum munud i bump; gallai ddal bws pump o'r gloch pe brysiai i'r Maes, ond yn wir, heb damaid o fwyd, fe lewygai. Brysiodd eto i'r tŷ-bwyta i adnewyddu ei nerth.

Pan gyrhaeddodd William Jones adref, nid oedd neb i mewn. Rhoes y cloc-larwm ar y dresel, ac yna safodd yn hir wrth y bwrdd yn syllu ar y platiad o frôn a'r botelaid o nionod wedi eu piclo. Wedi golchi ei ddwylo wrth y feis, eisteddodd wrth y bwrdd yn hurt, gan gnoi'r brôn yn beiriannol, fel gŵr mewn