Tudalen:William-Jones.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

breuddwyd. Fforciodd ddau o'r 'nionod yn ffyrnig, gan ddyfalu sut y teimlai Now John echnos mewn sefyllfa go debyg. Gwthiodd y brôn a'r botelaid o nionod o'r neilltu a bodlonodd ar dorri ychydig o fara-ymenyn iddo'i hun. Penderfynodd hefyd gael cwpanaid o de, ond darganfu nad oedd diferyn o olew yn y stôf. Aeth ati i wneud tân i ferwi'r tegell, a mwynhâi ei drydedd gwpanaid o de pan ruthrodd Leusa i mewn i'r tŷ. Taniodd ei bibell yn araf a ffwndrus, heb edrych arni.

"'Wyt ti wedi colli dy dafod, dywed?" gofynnodd hi cyn hir.

"Brôn a phicyls."

"Y?"

"Brôn a phicyls."

"Diolcha fod gin ti ddannadd i gnoi picyls."

Cododd ei lygaid, gan feddwl dweud rhywbeth mawr, ond arhosodd ei geg yn agored fel safn pysgodyn ar ei anadliad olaf, a rhythodd ar ei phen.

"Lle andros yr wyt ti wedi bod?"

"Yng Nghnarfon i drio cal trwsio fy nannadd. Ac mi gefis i byrm yr un pryd. Ac mi brynis yno het hefyd, os ydi hynny o ryw ddiddordeb iti."

Llyncodd William Jones ei boer a chaeodd ei ddannedd yn dynn.

"I b'le'r wyt ti'n mynd ?"

"I weld Ifan, y mrawd. Ac wedyn, i'r pictiwrs." Caernarfon, brôn a phicyls, pictiwrs gyda'r nos—onid dyna oedd y stori am Maggie Jane, gwraig Now John ?

"Os ei di i'r pictiwrs 'na heno ar ôl bod yng Nghnarfon drw'r dydd, mi fydda' i'n . ." Arhosodd, heb wybod yn iawn beth a oedd yn ei feddwl.

"Mi fyddi'n be', mi liciwn i wbod?"

"Yn mynd odd'ma."

"O? I ble?"

"I'r Sowth yr un fath â Now John Ifans. At Meri, fy chwaer. 'Rydw' i wedi hen flino ar y galifantio 'ma byth a hefyd a'r gorwadd yn y gwely bob bora a'r bwyd rwsut - rwsut 'ma a'r...a'r...a phopeth. Does dim synnwyr yn y peth. Dos di i'r pictiwrsna heno, 'nginath i, ac mi a inna' i'r Sowth ddydd Sadwrn. Ac mi arhosa' i yn y Sowth. Am byth."