Tudalen:William-Jones.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dioddef yn o arw hefo'i stumog. Cofiodd Wili John iddo addo cyfarfod Gomer Rees am bump, a chododd yn frysiog oddi wrth y bwrdd.

"Dŷn nhw ddim yn dda iawn, Wncwl," meddai. "Mi ro' i hon i Mot."

"Wyt ti isio lladd y ci, dywad?" gofynnodd ei fam. "Mi gei fynd â'r cwbwl i lawr i Sam Pierce, y plisman. Mae gynno fo ddau fochyn."

Sylw Crad pan glywodd y stori oedd, y dylai Meri ei hun fynd â'r pethau i lawr i Sam Pierce a gofyn iddo, os trengai un o'r moch, gloi un o'r ddau droseddwr yn y rhinws.

"Dim gwahaniaeth pa un," chwanegodd, ac yna, "Y nefoedd fawr, ond ydan ni'n dŷ o bobol ryfadd!"

Cysgasai Crad y prynhawn hwnnw, heb glywed dim o sŵn y prysurdeb ar y Wawr. Ond fel rheol, yr oedd ganddo syniad go dda beth a âi ymlaen yn y tŷ. Yr oedd ei wely ef yn y llofft ffrynt, ond trwy fynnu i'r drws gael ei adael yn agored, clywai'r symudiadau islaw yn weddol glir. Meri'n taro llestri ar y bwrdd, William yn rhoi glo ar y tân, Wili John yn dynwared rhai o'i gwsmeriaid, Eleri'n hymian un o'r caneuon a ddysgai i'r plant——yr oedd mwynhad a chysur ym mhob sŵn. A chlywai bopeth a ddigwyddai yng nghyffiniau'r drws ffrynt—Dai Llaeth yn rhoi bai ar y tywydd, haul neu beidio; Wili John yn rhuthro i'w waith, gan geisio ysgwyd y stryd i gyd wrth roi clep ar y drws; camau llon Eleri pan gychwynnai i'r ysgol; a'r "Rhwbath arall, Meri?" a daflai William Jones o'r drws wrth fynd i siopa. Esgynnai'r newyddion diwedd—araf befyd o'r stryd i'r llofft, a phan frysiai Meri i fyny i'w hailadrodd, clywai hwynt o enau'r claf.

"Roedd Sali Ifans—Sali Dew—yn mynd heibio 'rwan ac yn deud...?

"... fod Jac Bowen yn jel a merch Seimon Jenkins yn wael iawn a gwraig Ben y Condyctor wedi cal twins ac un o foch Sam Pierce wedi marw ar ôl bwyta sosej—rôls a ..."

"Ddaru hi ddim sôn am sosej—rôls."

Tyfai Crad hefyd, ar ei gefn yn ei wely, yn dipyn o fardd. Pe dywedai rhywun beth felly wrtho ef, awgrymai y dylai'r cyfaill hwnnw ddal ei ben o dan y feis am hanner awr, ond er hynny, edrychai llygaid Crad mewn syndod plentyn ar y byd o'i amgylch. Tynerwch melfedaidd y gwyll bob bore a hwyr, golau'r wawr dan lenni'r ffenestr, yr adar to ffwdanus ar frig