y tŷ cyferbyn, y patrymau a weai heulwen a chysgod ar fur a tho, gwyrth y lliwiau ar y blodau a roddai Eleri ar fwrdd wrth ei wely, gloywder y croen ar ddwylo Meri, yn enwedig ar ddydd Llun, y diwrnod golchi—gwelai Crad y pethau hyn am y tro cyntaf yn ei fywyd. Hongiai ei oriawr wrth ei chadwyn ar bost y gwely, ond prin yr edrychai arni. Dywedai sûn troed ar y palmant islaw a lle'r heulwen ar fur ei ystafell faint oedd hi o'r gloch, a pha wahaniaeth os oedd ei ddyfaliad bum munud o'i le? Ac yng ngwyll pob hwyr, mor hen, mor elfennol ac anorchfygol o hen, oedd siâp rhywbeth—simdde tŷ Ned Andrew er enghraifft—yn erbyn y nef.
"Rhyfadd fel y mae rhywun yn dysgu sylwi ar betha'," meddai wrth Mr. Rogers un diwrnod, "yn 'sbïo a gwrando fel pe am y tro cynta' 'rioed. 'Wyddwn i ddim fod heulwen yn beth mor ... mor..."
"Mor hardd?"
"Naci. Mor... ddi-lol, mor dawal, mor ... mor ddifalch. Dim ffys o'i gwmpas o."
"Felly y ma' popeth gwir hardd, Crad."
"Sŵn y glaw 'na wedyn. Mi fedra' i wrando arno fo am oria' a chlywad rhyw fiwsig esmwyth, tynar, ynddo fo. Pan on i'n 'sgota yn Afon Gam ers talwm, mi fyddwn i'n arfar ista ar foncyff ryw ugain llath uwchben Pwll Dwfn dim ond i wrando ar lithriad y dŵr. 'Doeddwn i'n dal dim yn fan'no, a mi fydda'r hogia'n chwerthin am fy mhen i, ond wir, 'sgodyn ne' beidio, 'fedrwn i ddim mynd heibio i'r darn hwnnw o'r afon. Yno yr oedd Afon Gam yn fwya' huodl, wchi. A phan fydda' i'n gwrando 'rwan ar sŵn glaw, mi fydda' i'n troi'r weiarles 'na i ffwrdd ac yn teimlo'n reit ddig wrth Dai Llaeth a'i gart, ne' fan Jôs Becar, ne' lais Jane Harris Tŷ Pella'. 'Sylwis i 'rioed arno fo o'r blaen, wchi. Rhyfadd, yntê?"
Gwenodd Mr. Rogers, ac yna, gan godi'i ben i wrando ar fiwsig y glaw, meddai'n dawel,
"Dydd i ddydd a draetha ymadrodd,
A nos i nos a ddengys wybodaeth."
Meddyliai Crad gryn dipyn hefyd am grefydd, er mai pur aneglur oedd ei syniadau ar y pwnc. Ceisiai gofio rhai o ddywediadau Mr. Rogers, gyda'u pwyslais ar "wasanaeth" a "charedigrwydd" a "chymwynasgarwch"; cofiai'n gliriach wasanaeth a charedigrwydd a chymwynasau Mr. Rogers ei