Tudalen:William-Jones.djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun i deuluoedd yr ardal. A phan ddychmygai Crad Iesu Grist yn rhodio drwy wlad Canaan gan wneuthur daioni, wyneb a llais Mr. Rogers a roddai ef iddo. Câi gysur a mwyn- had yn y darlun, ond ni fentrai ei feddwl lawer ymhellach i dir crefydd.

Paid a'i feirniadu'n llym, ddarllenydd hynaws. Pan ddaeth i lawr o'r Gogledd i Fryn Glo, gŵr digrefydd ydoedd, er y llwyddai Meri i'w lusgo i'r capel weithiau. Nid oedd gweinidog yn Salem y pryd hwnnw, gan mai ymhen rhyw hanner blwydd- yn wedyn y rhoddwyd galwad i Mr. Rogers, a phob tro yr arweinid Crad i'r capel, rhyw frawd yn swnian yn ddefosiynol fel Mr. Lloyd a oedd yn y pulpud. Nogiodd mab Twm Sowldiwr yn llwyr cyn hir, ac wedi'r cwbl, pa reswm a oedd mewn gofyn i wraig tros y ffordd ofalu am y plant ar nos Sul ac yntau'n dyheu am eu gwarchod ? Os oedd Meri'n meddwl ei fod ef yn mynd i eistedd fel hogyn bach yn gwrando ar ryw hen wlanen o ddyn yn malu am Abraham a'i had, yr oedd hi'n gwneud coblyn o gamgymeriad.

Y gwir oedd na thynnodd Mr. Lloyd na'r brodyr yn Siloh ddarluniau a ddenai ddychymyg bachgen Wil Sowidiwr. Eisteddai Duw, un llymach o lawer na Huws y Sgwl, ar orsedd enfawr o aur yn ei wylio ef o fore tan nos ac yn nodio'n awgrymog ar gofnodydd o angel bob tro y gwrthodai fynd i'r Cyfarfod Gweddi neu y dihangai o'r Seiat neu y rhoddai gweir i Ifan, hogyn cegog Isaac Davies. Yr oedd, fe wyddai, ddegau onid cannoedd o farciau duon yn erbyn ei enw ar ddiwedd pob dydd, ond marciau duon neu beidio, nid oedd arno ef eisiau bod yn sant, heb fod byth yn cwffio na dwyn afalau na chwarae knock-doors na dim. Âi ar ei ben i dân a brwmstan, wrth gwrs, ond câi Now Jên Ifans a Now Bwl a llu o rai tebyg yn gwmni yno.

Pan dyfodd a dechrau gweithio yn y chwarel, ni thywyllai Crad ddrws y capel. Yn yr haf crwydrai hyd lannau Afon Gam ar y Sul, gan wrando ar yr adar a chwibanu arnynt, ond yn y gaeaf yr oedd y diwrnod yn angladdol o hir a dyheai am fore Llun. Galwai'r gweinidog a'r brodyr i'w weld weithiau, ond ei yrru ymhellach i dir gwrthgiliad a wnâi ffuantwch yr hen gybydd Isaac Davies a huodledd gwag Wmffra Roberts a'r ffug o grynedigrwydd llywaeth a wisgai Mr. Lloyd. Ac eto yr oedd rhywbeth yn ei natur a'i gwnâi'n anniddig, yn arbennig pan wrandawai ar ambell hen grefyddwr